Mae’r Llysgenhadon Chwaraeon yn dal ar y blaen

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod yn rhan o Raglen Llysgenhadon Chwaraeon a lansiwyd yn wreiddiol yng Nghastell-nedd Port Talbot i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac sydd bellach wedi cyrraedd ei 10fed flwyddyn.

Mae’r rhaglen yn annog plant a phobl ifanc o’r fwrdeistref sirol i ddod yn lleisiau dros chwaraeon yn eu hysgolion a’u cymunedau, gan hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chyfleoedd chwaraeon.

Mae yna Lysgenhadon Efydd mewn ysgolion cynradd, Arian mewn ysgolion cyfun ac Aur yng Ngrŵp Colegau NPTC, a hefyd Llysgenhadon Platinwm sy’n cynrychioli ar lefel genedlaethol, sydd wedi cynnwys myfyrwyr o Academi Chwaraeon Llandarcy.

Mae Llysgenhadon yn derbyn hyfforddiant arweinyddiaeth chwaraeon ac mae llawer ohonynt yn darparu sesiynau wythnosol i blant iau yn eu hysgolion, cymunedau neu golegau. Yn ystod y 10 mlynedd y mae’r rhaglen wedi cael ei chynnal, mae llawer o lysgenhadon wedi dod drwy’r llwybr arweinyddiaeth ac wedi cael eu cyflogi gan Wasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon Cyngor Castell-nedd Port Talbot (PASS) i gynnal sesiynau gweithgareddau a chwaraeon.

Mae myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg wedi gwneud cyfraniad rhagorol at gyflwyno pobl ifanc i weithgarwch corfforol drwy wirfoddoli i fod yn Llysgenhadon Ifanc Aur gyda PASS Castell-nedd Port Talbot.  Mae’r llysgenhadon hyn i gyd yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn uniongyrchol yn eu cymunedau, gan hyrwyddo cysylltiadau rhwng clybiau ac ysgolion a chyflwyno ac arwain y sesiynau eu hunain. Ar hyn o bryd mae’r Llysgenhadon yn cynnal sesiynau wythnosol i fyfyrwyr gydag ethos cynhwysol ac sydd wedi cael ei nodi fel enghraifft o arfer da ar hyd a lled y wlad.

Mae’r cynllun yn parhau i dyfu gyda mwy o hyfforddiant ar gyfer Llysgenhadon wedi’i gynllunio ar gyfer Ionawr 2020.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant:

“Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn llesiant pobl ifanc ac oedolion ac mae’n dda gweld y rhaglen werthfawr hon yn mynd o nerth i nerth 10 mlynedd ar ôl iddi ddechrau.”