Medalau i Grŵp Colegau NPTC yn WorldSkills UK Live

Mae prentisiaid a myfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn brwydro gyda’r goreuon o bob cwr o’r DU i ennill yr anrhydeddau uchaf yn WorldSkills UK Live eleni.

Mae’r gystadleuaeth a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn dod i’r brig yn y DU  mewn llwybr galwedigaethol.

Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu busnesau Prydain i gystadlu ar lefel fyd-eang.

Roedd y rhai a gymerodd ran yn y cystadlaethau hefyd yn gobeithio sicrhau’r cyfle i gynrychioli’r DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Shanghai yn 2021.

Yn cystadlu am yr anrhydeddau uchaf o Grŵp Colegau NPTC oedd:

Curtis Rees – Weldio – Aur; Patricia McKeown – Sgiliau Cynhwysol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Arian; Zack Evans – Dylunio’r We – Arian; Elle Pitts – Gwyddor Fforensig – ‘Canmoliaeth Uchel’; cyn-fyfyriwr Paris Williams – Gwyddoniaeth Fforensig – Efydd; Josh Jones – Ailorffennu Cerbydau Modur.

Dywedodd Edward Jones, Llysgennad Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Rydym wrth ein boddau gyda chyflawniadau ein myfyrwyr. Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych iddynt ddangos eu sgiliau a chystadlu ar lefel mor uchel. Maent wedi mynd drwy’r rownd derfynol ranbarthol i gyrraedd y lefel hon o gystadleuaeth a bydd yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y bydd yn edrych yn dda ar eu CVs wrth wneud cais am swyddi, ond mae’n dangos y sgiliau a’r dalent sydd ganddynt a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu dewis lwybrau gyrfa.”

Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae hon yn foment sy’n newid bywydau’r bobl ifanc hyn. Maent eisoes wedi ennill cystadlaethau rhanbarthol ac erbyn hyn eu Rowndiau Terfynol Cenedlaethol – dyma’r genhedlaeth newydd o berfformwyr arbennig a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y DU.

“Rydym yn hynod falch o bob un ohonyn nhw – ni allai safon y gystadleuaeth fod wedi bod yn uwch.”