Cynghrair Addysg Tsieineaidd

Cafodd myfyrwyr Busnes a TG Lefel 3 o Goleg Bannau Brycheiniog gwmni dau gydweithiwr Tsieineaidd ar ymweliad diweddar â Distyllfa Penderyn.  Roedd y myfyrwyr Busnes yn ymchwilio i dechnegau brandio a marchnata Penderyn, gwahaniaethu cynnyrch a phwyntiau gwerthu unigryw cynnyrch.  Archwiliodd y myfyrwyr TG y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a digidol o fewn y ddistyllfa.

I ddechrau aeth y myfyrwyr i ymweld â’r amgueddfa i ddysgu am hanes distyllu chwisgi yng Nghymru yn ogystal â hanes Penderyn.  Yna aethpwyd â hwy ar daith o amgylch y ddistyllfa lle dysgon nhw am sut mae’r busnes yn tyfu ac yn datblygu.

Dywedodd Linda Kelly, darlithydd Busnes a TG: “Mae’r teithiau hyn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r gwahanol fathau o fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru a hefyd y cyfleoedd posibl sydd ar gael iddynt ar ôl cwblhau eu cwrs.  Mae’n wych ein bod yn gallu cynnwys ein cydweithwyr Tsieineaidd er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru.”

Daeth yr athrawon Tsieineaidd i Grŵp Colegau NPTC ym mis Hydref i gysgodi darlithwyr profiadol ac i ddysgu sut i gyflwyno cymwysterau galwedigaethol.  Bu Steve Thomas, un o’r darlithwyr y mae’r athrawon wedi’i gysgodi, yn darparu sesiynau wythnosol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, lle dysgodd yr athrawon am wahanol ddulliau o gyflwyno’n effeithiol a thechnegau rheoli yn yr ystafell ddosbarth.

Nododd Steve fod y rhaglen yn ei gwneud yn bosibl creu cysylltiadau â cholegau AB eraill yn Tsieina yn ogystal â bod o fudd i’n staff addysgu drwy eu galluogi i gael gwybodaeth am sut mae colegau yn Tsieina yn gweithio.  Mae Steve wedi mwynhau gweithio’n fawr gyda Li Deng a Jia Zhonghui gan ddweud: “Roedd yn anrhydedd ac yn brofiad llawn mwynhad i gael gweithio gyda’r ddau (Lily a Jack).  Roeddwn yn gallu meithrin dealltwriaeth ac ymgolli yn eu diwylliant a’u profiadau addysgu.”

Mae Li a Jia yn rhan o fenter Grŵp NPTC newydd lle maen nhw wedi ymrwymo, ynghyd â Cholegau Tsieina, i raglen Canolfan Ragoriaeth er Addysg Alwedigaethol Brydeinig yn Tsieina o’r radd flaenaf (CEBVEC).  Bydd y rhaglen hon yn galluogi Tsieina i ddatblygu sgiliau mawr eu hangen i’w galluogi i gyflawni Strategaeth Datblygu Economaidd Tsieina sy’n canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch-dechnoleg.  Mae’n rhan o Gynghrair Cydweithrediad a Datblygiad Addysg Alwedigaethol Tsieina-Prydain, a adwaenir fel y Gynghrair, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydweithrediad agos rhwng Tsieina a Phrydain mewn addysg alwedigaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cysylltiadau â Chynghrair Addysg Tsieina, cliciwch y linc isod:

https://business.nptcgroup.ac.uk/2018/05/31/nptc-group-of-colleges-leads-the-way-in-chinese-education-alliance/