Mae Alice Yeoman, myfyrwraig arlwyo Coleg y Drenewydd, yn ymgymryd â rôl newydd yn yr enwog Belmond Le Manoir aux Quat’Saisons. Mae’r gwesty gwledig hwn yng nghefn gwlad prydferth swydd Rydychen yn gartref i’r cogydd nodedig iawn Raymond Blanc OBE, a dyma unig westy gwledig Prydain i gynnal dwy seren Michelin am dros 30 mlynedd.
Dywedodd Alice, sy’n dod yn wreiddiol o’r Borth ei bod wrth ei bodd yn dod o hyd i gynifer o gyfleoedd cyffrous ar ôl gadael y coleg. “Dysgais gymaint yn ystod fy nghyfnod yn y coleg, ac erbyn hyn rydw i mor lwcus i gael cyfle i ddefnyddio fy sgiliau ymysg y rhai yr wyf wedi eu hedmygu. Mae’n swydd ddelfrydol i gael gweithio yn y ceginau yn Belmond le Manoir lle mae cynifer o gogyddion seren Michelin wedi hyfforddi,” meddai Alice.
Dim ond ar ôl mynychu sesiwn ‘blas ar bobi’ yng Ngholeg y Drenewydd a gynhaliwyd gan yr adran Lletygarwch ac Arlwyo y dechreuodd ddiddordeb Alice mewn arlwyo. Mwynhaodd hi’r sesiwn gymaint aeth ymlaen i wneud ei Lefel 3 mewn arlwyo yn y Coleg.
Dywedodd y Pennaeth Arlwyo yng Ngrŵp Colegau NPTC, Sue Lloyd Jones: “Dangosodd Alice uchelgais anhygoel a chreodd argraff fawr arnom ni i gyd ar y tîm arlwyo. Roedd hi’n gweithio’n galed yn y coleg a’r tu allan iddo. Alice oedd yr unig berson o Gymru i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol WorldSkills UK yn gynharach eleni ac roedd hi hefyd yn rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Canolbarth Cymru yn ddiweddar. Rydym i gyd yn falch iawn ohoni.”
Ychwanegodd y darlithydd Shaun Bailey: “Mae Alice nawr yn elwa ar ei holl waith caled. Roedd hi bob amser yn uchelgeisiol ac roedd ganddi agwedd gadarnhaol tuag at bopeth yr oedd yn ei wneud. Nid yw’r swyddi uchaf mewn arlwyo yn hawdd eu cael ac oherwydd egni a gallu Alice mae hi wedi llwyddo yn ei nodau i ennill y swydd hon.”
Mae Alice yn parhau i fod yn argyhoeddedig bod y gefnogaeth, yr anogaeth a’r cyfleoedd a roddwyd iddi drwy’r coleg a’r tiwtoriaid wedi ei galluogi i fod mewn sefyllfa i deimlo’n hyderus o ran ei sgiliau. Dywedodd: “Rwy’n argymell adran arlwyo Coleg y Drenewydd yn fawr i unrhyw ddarpar berson ifanc sy’n angerddol am arlwyo a’r celfyddydau coginio.”
Dymunwn yn dda iddi yn y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Arlwyo beth am edrych ar y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg y Drenewydd.