Aspire to be Steel – Annog Menywod mewn Peirianneg

Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o fod yn bartner yn y digwyddiad ‘Aspire to be Steel’ a gynhaliwyd ar 16 a 17 Hydref yng Ngholeg Castell-nedd.

Mae’r digwyddiad, a gynlluniwyd i annog ac ysbrydoli menywod ifanc i ddilyn gyrfa ym maes STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), wedi’i gyflwyno fel partneriaeth rhwng ECITB, Partneriaeth Sgiliau Dysgu Rhanbarthol, Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC a TATA Steel.

Yn ôl Engineering UK 2018, dim ond 12.37% o’r diwydiant peirianneg sydd â demograffig benywaidd. Mae’r bartneriaeth yn awyddus i newid hyn drwy annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y diwydiant.

Cafodd dros 50 o ddisgyblion blwyddyn wyth o ysgolion lleol y cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau ‘rhowch gynnig arni’ a ddarparwyd gan y bartneriaeth, a oedd yn cynnwys cwmnïau lleol a chenedlaethol. Cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi’r realaeth rhithwir a’r dechnoleg deallusrwydd artiffisial ddiweddaraf yn ogystal â gwifrau ‘buzz’, roboteg a dronau. Yn y prynhawn, cawsant gyfle i ennill gwobrau drwy gystadlu mewn timau ar her pibell, a oedd yn profi eu sgiliau rheoli prosiect a gwaith tîm.

Treuliwyd yr ail ddiwrnod yn Tata Steel ym Mhort Talbot, gyda Dr Laura Baker, Pennaeth Rheoli a Datblygu Cynnyrch, yn sôn am ei thaith i yrfa mewn Peirianneg a’u hugain mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Dur. Yna rhoddwyd taith o’r safle gyfan i’r myfyrwyr, gan ymgysylltu â gweithgareddau  STEM ar hyd y ffordd. Caewyd y digwyddiad gan Jessica Leigh Jones, llysgennad STEM o Syniadau Mawr Cymru, a rannodd ei stori ysbrydoledig o fod yn brentis peirianneg a ddaeth yn Astroffisegydd.

Dywedodd James Llewellyn, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol: Peirianneg: “Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o ddigwyddiad deuddydd mor llwyddiannus sy’n rhoi cyfle i fenywod ifanc drochi eu hunain mewn gweithgareddau STEM. Y nod yw dangos bod gyrfa o fewn pwnc Peirianneg/STEM ar gyfer pawb, nid ar gyfer dynion yn unig. Mae ein cysylltiadau gyda’r diwydiant a darparwyr addysg uwch yn ein galluogi i wahodd amrywiaeth anhygoel o gwmnïau lleol a chenedlaethol a ddaeth â gweithgareddau ‘rhowch gynnig arni’ ar bob stondin. Roedd yn wych gweld cynifer o ferched o ysgolion lleol yn derbyn y cyfle hwn ac rydym yn falch iawn o gael adborth mor gadarnhaol. Diolch i’r holl bartneriaid, cwmnïau a chydweithwyr a fu’n rhan o sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn.

I gael gwybod rhagor am y cyfleoedd peirianneg amser llawn, rhan-amser ac addysg uwch yng Ngrŵp Colegau NPTC, cliciwch yma.