Tîm Cyflogadwyedd y Coleg yn helpu myfyriwr i ennill swydd ei freuddwydion

Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymfalchïo yn ei allu i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i fyfyrwyr, a datblygu nid yn unig sgiliau academaidd, ond y rheini er mwyn bod yn barod am yrfa hefyd!

Diolch i’r gefnogaeth a gynigiwyd gan Barod am Yrfa, menter cyflogadwyedd Grŵp Colegau NPTC, mae’r cyn-fyfyriwr Luke Jenkins wedi sicrhau swydd amser llawn fel Swyddog Cymorth Systemau Rheoli Gwybodaeth (MIS) yn y Coleg.

Dechreuodd Luke ar ei daith gyda Choleg Castell-nedd fel myfyriwr Safon Uwch, gan astudio cymhwyster dwbl mewn Busnes, TG a Bagloriaeth Cymru, cyn mynd ati i astudio busnes ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.  Ond, doedd prifysgol fawr ddim at ddant Luke, a dychwelodd i Goleg Castell-nedd i gwblhau ei HND mewn Busnes, ac yn olaf y radd busnes atodol.

Drwy gydol ei gyfnod yn y coleg, roedd Luke yn fyfyriwr gyda Centerprise, yn mynychu digwyddiadau ac yn helpu gyda phrosiectau dylunio graffeg, ac unrhyw beth i wella ei CV. Pan wnaeth yr Uwch Swyddog Menter a Chyflogadwyedd, Cara Mead, gyflwyno sesiwn ar CVs fe gysylltodd Luke â’r tîm am help gyda gwneud ceisiadau am swyddi.  Cafodd Luke fynediad at amrywiaeth o gymorth gan y tîm i helpu gyda’r holl broses ymgeisio, gan gynnwys cael ffug-gyfweliad, ac mae’n argyhoeddedig bod hyn wedi ei helpu i gael ei benodi yn Swyddog Cymorth MIS.

”Rydw i mor falch o fod wedi sicrhau swydd amser llawn, a hynny dim ond mis ar ôl graddio! Dydw i ddim yn meddwl y gallwn i fod wedi gwneud hynny heb y cymorth a gefais gan Centerprise.  Mae wedi rhoi nifer o sgiliau i mi ac mae wedi gwella fy hyder yn fawr.  Mae’n wych cael coleg fel hwn ar garreg eich drws sydd wir yn credu bod dyfodol ei fyfyrwyr yn bwysig. Gallaf argymell y  tîm yn llwyr a byddwn yn annog pob myfyriwr i ddefnyddio menter Barod am Yrfa’r coleg.”

Roedd Cara Mead, Uwch Swyddog: Menter a Chyflogadwyedd wrth ei bodd gyda llwyddiant Luke, gan ddweud,

”Rydym i gyd yn falch iawn o Luke a’r hyn y mae wedi’i gyflawni gyda ni. Mae Centerprise yn falch o gynnig y fenter Barod am Yrfa i helpu pob myfyriwr i baratoi ar gyfer byd gwaith. Mae’r cymorth rydym yn ei gynnig yn cynnwys lleoliadau profiad gwaith, ysgrifennu CV, help gyda ffurflenni cais, a ffug- gyfweliadau.”

Cap Pic: Llwyddiant Parod i Yrfa – Luke Jenkins gydag Uwch Swyddog Grŵp Colegau NPTC: Menter a Chyflogadwyedd