Gwobrau Myfyrwyr 2019

Mae rhai o’r myfyrwyr disgleiriach a mwyaf addawol yng Nghymru wedi cael eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Myfyrwyr flynyddol Grŵp Colegau NPTC a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Castell-nedd.

Bu’r noson yn ddathliad o lwyddiant academaidd a phersonol, gydag un myfyriwr o bob maes academaidd yn cael ei goroni’n Enillydd Gwobr yr Ysgol. Bu i’r seremoni gydnabod y cyfraniad a wnaed gan staff hefyd trwy gyflwyno Gwobr Bwrdd Corfforaethol a Thiwtor y Flwyddyn.

Eleni, cynhaliwyd raffl elusennol dros Gefnogaeth Canser Macmillan gan yr oedd un aelod o staff y Coleg, Gail Dubec, yn gwneud her ‘Braving the Shave’ dros yr elusen, gyda’r triniwr gwallt enwog Lee Stafford wrth law i eillio gwallt Gail. Dewisodd y cyn-fyfyriwr, enillydd blaenorol y wobr ac aelod presennol o’r Gweilch, Tiann Thomas Wheeler, yr enillwyr.

Daethpwyd â’r trafodion i ben gyda gwobr myfyriwr cyffredinol y flwyddyn, a ddewiswyd gan Mark Dacey, Prifathro a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC.

Yr enillydd cyffredinol eleni oedd y myfyriwr Amaethyddiaeth, Fflur Roberts. Achubodd y fenyw anhygoel yma ar bob cyfle o fewn a’r tu allan i’r coleg i ddatblygu ei hun yn ei llwybr gyrfa dewisedig, sef Amaethyddiaeth.

Wrth gydnabod ei chyflawniadau yn y coleg ac mewn gwaith yn y gymuned, daeth Fflur yn ail yng Ngwobr Dysgwr Diwydiannau’r Tir y Flwyddyn yn Ffair Gaeaf Sioe Frenhinol Cymru ym mis Rhagfyr 2018. Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr urddasol Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Cymru iddi am y myfyriwr gorau sy’n astudio cwrs rheoli gysylltiedig ag amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, nyrsio anifeiliaid, rheolaeth geffylau, rheolaeth cefn gwlad neu ddiwydiannau tir eraill.

Wrth gydnabod ei chyflawniadau yn y Coleg ac mewn gwaith yn y gymuned, daeth Fflur yn ail yng Ngwobr Dysgwr Diwydiannau’r Tir y Flwyddyn yn Ffair Gaeaf Sioe Frenhinol Cymru ym mis Rhagfyr 2018, wedyn aeth hi ymlaen i ennill Gwobr Myfyriwr urddasol Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Cymru.  Mae hi’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifainc Llanfair Caereinion, ym mha rinwedd y mae hi wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau yn y Diwrnod Maes, Barnu Da Byw, yr Eisteddfod a chystadleuaeth Oen Pennaf CFfI y Ffair Gaeaf dros y 4 blynedd ddiwethaf.

A hithau’n fodel rôl gwych i fyfyrwyr amaethyddiaeth eraill, mae hi’n gweithio’n ddiflin i hybu’r diwydiant i bobl eraill trwy waith gyda Fforwm Ieuenctid y CFfI, Cynhyrchwyr Ffermwyr Ifainc Dunbia, Meinir Howells, S4C, a Chyswllt Ffermio.

A phan nad yw hi’n brysur ar fferm ei theulu mae hi’n helpu ffermwr oedrannus lleol o’i gwirfodd yn ystod y tymor ŵyna!!

Cyflwynwyd y seremoni gan yr actor a chyflwynydd, Kev Johns, a gyflwynodd yr enwebeion ac a ddyfarnodd tlysau’r enillwyr, roedd hefyd wedi’i ymostwng gan ei chyflawniadau – gan iddi bryderu am y gwartheg ar ôl i’r teulu cyfan fynd ar y daith o’r Drenewydd i Gastell-nedd.

Bu’n noson wych yn gyffredinol gyda Sian Humphries, Pennaeth Ysgol Uchaf Cefn Saeson, a gasglodd wobr ar ran un o’i chyn-fyfyrwyr Kayleigh Mellor, sy’n fyfyriwr rhagorol y flwyddyn yn yr Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladau, yn dweud:

‘Dw i mor falch o Kayleigh a’i chyflawniadau yn y Coleg ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael ei chydnabod am ei gwaith, rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth sydd gan y Coleg gyda Chefn Saeson.’’

Dywedodd Mark Dacey, Prifathro a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, y bu’r seremoni wobrwyo’n llwyddiant ysgubol: “Mae’n fraint i fedru llongyfarch i’r holl fyfyrwyr am y gwaith caled ac ymroddiad y maent wedi’u dangos. Mae’r Gwobrau Myfyrwyr yn ddathliad o’r ymdrech y mae’r myfyrwyr rhyfeddol hyn wedi’i gwneud gyda’u hastudiaethau. Rwyf eisiau diolch i bawb a fu’n ymwneud â gwneud y digwyddiad hwn yn gymaint o lwyddiant, gyda sylw arbennig ar gyfer noddwyr y noson. Ar ran holl staff Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd y Llywodraethwyr, rwy’n anfon llongyfarchiadau diffuant at holl enillwyr y gwobrau.”

Wedi’i noddi gan Harcourt Colour Print, cydweithiwr argraffu hirsefydlog y Coleg a Knox & Wells, y prif gontractwr sy’n gyfrifol am ddatblygu adnewyddiad y Bloc A/B newydd a fu’n gartref i ddiodydd a chanapés cyn y sioe, a chan y busnes lleol Valley Mill.

Rhestr Lawn Enillwyr y Gwobrau:

Ewan Partington: Enillydd Ysgol – Academi Chweched Dosbarth

Casey Williams: Enillydd Ysgol – Busnes Twristiaeth a Rheoli

Marcus Scholl: Enillydd Ysgol – Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Kayleigh Mellor: Enillydd Ysgol – Gwasanaethau Peirianneg Adeiladau

Eleri Dowell: Enillydd Ysgol – Academi Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford

Libby Cawley: Enillydd Ysgol – Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Trish Mckeown: Enillydd Ysgol – Astudiaethau Sylfaen

Chloe-Jade Arnold: Enillydd Ysgol – Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio

Zack Evans: Enillydd Ysgol – Cyfrifiadureg a TG

Drew Lannen: Enillydd Ysgol – Peirianneg

Fflur Roberts: Enillydd Ysgol – Arlwyo, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth

Katie Archer: Enillydd Ysgol – Dysgu Seiliedig ar Waith

Katie Eley: Enillydd Ysgol – Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Michael Tucker: Prentis y Flwyddyn

Matthew Lawrence a Katie Davies: Enillwyr Gwobr Mathemateg Williams Lewis Jones

Theresa Latham, Rachel Seddon, Cory Palmer – Gwobr Saraswati

Savannah Elkins – Gwobr Haulfryn

Supanja Pueaboonmak-Davies: Myfyriwr AU y Flwyddyn

Bernadette Dennedy: Dysgwr Oedolyn y Flwyddyn

Joseph Morris – Gwobr John Brunt

Erfyl Hughes: Gwobr Staff Bwrdd y Gorfforaeth

Hazel Roberts: Tiwtor y Flwyddyn

Fflur Roberts: Gwobr y Prif Weithredwr

 

Gellir gweld oriel lawn o’r noson ar ein tudalen Facebook.