Prynhawn Cyflwyniad Haf ESOL

Bu i Ddysgwyr ESOL Oedolion a’r Gymuned Coleg Bannau Brycheiniog, ynghyd â’r tiwtor, Jacqui Griffiths, estyn croeso cynnes i Ann Mathias, Maer Aberhonddu yn ddiweddar mewn prynhawn gwobrwyo.  Gan fwynhau dosbarth olaf y flwyddyn academaidd, cyflwynodd y Maer eu tystysgrifau Agored Cymru diweddaraf i’r myfyrwyr.  Dangosodd Alix Miller sy’n rheoli’r Ganolfan ei chefnogaeth arferol gan helpu i wneud y prynhawn yn un cadarnhaol i bawb dan sylw.  Hefyd yn dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd Jackie Poley, sydd wedi gwirfoddoli i gefnogi dosbarthiadau dros nifer o fisoedd.

Yn dilyn y cyflwyniad, cyfarfu dau fyfyriwr â’r Maer a chawsant eu llongyfarch o ran y Gwobrau Dysgwyr Powys a gyflawnwyd eleni.  Casglodd y ddau wobrau mewn seremoni Wobrwyo Dysgwyr sy’n Oedolion Powys gyfan, a gynhaliwyd ym mwyty “Themâu” Grŵp NPTC yng Ngholeg y Drenewydd ym mis Mehefin.  Yn dilyn enwebiadau fel Dysgwyr y Flwyddyn Powys, enillodd y ddau y Wobr yn eu categorïau enwebedig:  Durga Bahadur Thapa enillydd Gwobr Dysgwr Cymunedol 2019 a Sher Bahadur Ijam enillydd Gwobr Dysgwr ESOL 2019.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau rhan-amser neu ragor o wybodaeth am y canlynol: Saesneg a Mathemateg, ESOL, TG a TGAU gyda’r hwyr, ffoniwch 01686 614554. Neu ewch i’n gwefan: www.nptcgroup.ac.uk/cy/dychwelyd-i-ddysgu