Graddio 2019 – Myfyrwyr Powys

Daeth myfyrwyr lleol o golegau’r Drenewydd a Bannau Brycheiniog at ei gilydd gyda dysgwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC i ddathlu eu llwyddiant a rennir gyda chyfeillion a theulu mewn seremoni raddio a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Yn ogystal â chynnig cyrsiau traddodiadol Safon Uwch a  galwedigaethol ôl-16, mae’r Coleg yn ddarparwr allweddol o ran addysg oedolion ac mae’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau Diploma Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a Graddau, fel aelod llawn achrededig o Brifysgol De Cymru, y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Abertawe, ac mewn partneriaeth â hwy.

Ymhlith y rhai oedd yn derbyn eu tystysgrifau graddio, dyfarnwyd Cymrodoriaethau Anrhydeddus i hoelion wyth y  gymuned leol yn y seremoni hefyd.

Dyfarnwyd Cymrodoriaethau Anrhydeddus pwysig eleni i’r canlynol: yr Aelod Cynulliad Gwenda Thomas, Pat Vine, Llywodraethwr Grŵp Colegau NPTC a’r Ustus Heddwch, a Barnwr yr Uchel Lys, Syr Clive Lewis. Dyfarnwyd yr anrhydedd bwysig i bob un ohonynt am Wasanaeth i’r Gymuned.

Roedd myfyrwyr o Goleg y Drenewydd a raddiodd yn cynnwys Lisa Andrews a Tracey Fletcher a enillodd y Dystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (TBAR) ynghyd â Peter Davey nad oedd yn bresennol yn y seremoni.

Roedd myfyrwyr o Goleg Bannau Brycheiniog a raddiodd yn cynnwys Skaiste Kazlauskiene a Michelle Dorrise-Turrall a gafodd Raddau anrhydedd dosbarth 1af mewn Rheolaeth Busnes, rhaglen prifysgol Glyndŵr, Rhian Joshua (a oedd yn methu bod yn bresennol yn y seremoni), Charlie Jones a Levi Phillips a gyflawnodd HND mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.

Levi Phillips a Charlie Jones

Dywedodd y darlithydd TBAR Tony Burgoyne, ‘Roedd hi’n wych gweld y merched yn graddio heddiw gan wybod pa mor galed y maen nhw wedi gweithio ar y cyd â rheoli bywydau prysur’.

Mae Skaiste Kazlauskeine eisoes wedi ennill gwaith gyda Chymdeithas Tai Calon fel Dadansoddwr Systemau Dan Hyfforddiant gyda’r cwmni o Flaenau Gwent.  Tai Calon yw un o’r cymdeithasau tai mwyaf yn y wlad, gan ofalu am Lynebwy, Tredegar, Brynmawr, Abertyleri a rhannau eraill o stoc tai Blaenau Gwent.  Cam ffantastig i yrfa Skaiste ym myd Busnes.

Skaiste Kazlauskeine (de)

Roedd Michelle, sy’n fam i ddau o blant ifanc, yn poeni i ddechrau ei bod wedi ysgwyddo gormod wrth gofrestru ar gyfer gradd BA Anrhydedd mewn Rheolaeth Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth, ond bellach mae’n graddio ar lefel uchaf y cwrs gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Er nad oedd yn dod o gefndir busnes, ffynnodd Michelle ar y cwrs a deall yn gyflym y cysyniad cymhleth sy’n gysylltiedig â’r agweddau deuol ar reolaeth busnes a thechnoleg gwybodaeth.

Roedd Rob Flower, Darlithydd Busnes ac Arweinydd AU yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, yn bresennol yn y seremoni gyda’r Darlithydd Mark Hughes.  Cyflwynodd Rob y Wobr ar y llwyfan ar gyfer yr Adran a dywedodd yn ddiweddarach pa mor falch yr oedd dros Skaiste a Michelle gan ddweud, “Rydym i gyd mor falch o’r ddwy ferch sydd wedi gwneud cymaint o waith ac sy’n llawn haeddu eu hanrhydedd dosbarth cyntaf.  Does gen i ddim amheuaeth fod gan y ddwy ferch yrfaoedd ardderchog o’u blaenau.”

Rhian Davies, Darlithydd mewn Chwaraeon, oedd yn annerch o’r llwyfan ar gyfer yr HND mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.  Dywedodd, “Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn hyfforddi Charlie, Rhian a Levi i ennill eu cymwysterau.  Rwy’n gwybod y byddan nhw’n mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon gwych dros chwaraeon ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw yng ngham nesaf eu gyrfaoedd.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch yn nptcgroup.ac.uk/cy/course-categories/addysg-uwch