Myfyriwr y Flwyddyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2019 – Fflur Roberts

Llongyfarchiadau i Fflur Roberts, Coleg y Drenewydd, a gafodd ei chyhoeddi yn fyfyrwraig y flwyddyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2019 mewn seremoni a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ar 23 Gorffennaf.

Enwebwyd y myfyriwr amaeth yn ei ail flwyddyn gan yr adran amaethyddiaeth.

Aeth Fflur i’r seremoni a gynhaliwyd ym mhafiliwn y llywydd, ynghyd â’i theulu ac ar ôl y cyflwyniad, roedd pawb yn canmol y coleg a’r gefnogaeth a ddangoswyd gan yr adran amaethyddiaeth. Dywedodd Fflur “Rwy’n ddiolchgar bod y Coleg wedi fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac rwy’n falch fy mod wedi ennill. Mae’r darlithwyr yn y coleg wedi fy ysbrydoli i gymryd pob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn dipyn o gystadlaethau cenedlaethol nawr. ”

Bu Fflur hefyd yn ail yn gynharach eleni yn y gystadleuaeth Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Lantra (dan 26).

Mae Fflur yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae’n anelu at hyrwyddo a chadw traddodiadau a diwylliant Cymreig yn y diwydiant amaeth.  Mae’n bwriadu parhau ag arferion lleol a helpu i gynnal a thyfu ei fferm defaid a chig eidion teuluol yn Llangadfan.

Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau’r Tir yn y Coleg: “Mae Fflur yn fyfyrwraig ardderchog.  Mae wedi profi ei bod yn fyfyriwr brwdfrydig a gweithgar sy’n cymryd rhan yn llwyr yn holl weithgareddau’r fferm yn y coleg ac yn cynhyrchu aseiniadau o safon uche”.