Ymadawyr ysgol yn pleidleisio mai Grŵp Colegau NPTC yw’r gorau yng Nghymru

Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio mai Grŵp Colegau NPTC yw’r darparwr hyfforddiant gorau yng Nghymru a’r pumed orau yn y DU fel rhan o’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol.

Mae’r gwobrau’n dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

Cynhyrchir y rhan fwyaf o’r rhestrau byr gan yr adborth a gasglwyd gan brentisiaid sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn sefydliad. Mae’r enwebiadau yn cynnwys enwau proffil uchel o fyd y banciau a chyllid, cewri eiddo tiriog a llety, arloeswyr mewn TG a thechnoleg ac arweinwyr y sector cyfreithiol a pheirianneg. Mae pob un wedi cael eu henwebu o ganlyniad i’w gwaith arloesol o ran datblygu a chynnal cyfleoedd i ymadawyr ysgol: Prentisiaethau Canolradd, Uwch Brentisiaethau, Prentisiaethau Uwch, Prentisiaethau Gradd a rhaglenni i ymadawyr ysgol.

Am y tro cyntaf eleni, neilltuwyd pedair gwobr i ddarparwyr hyfforddiant yn unig, a gafodd eu harolygu ar eu haddysgu, eu hasesu a’u hadborth, eu profiad dysgu a’u cymorth personol.
Daeth Grŵp Colegau NPTC i’r brig yng Nghymru ar gyfer y categorïau canlynol ac yn y DU gyfan fe’i gosodwyd yn yr ail safle ar gyfer addysgu; yn bedwerydd am y profiad dysgu; yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth.

Meddai Jack Denton, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd AllAboutSchoolLeavers.co.uk: “Cafwyd diddordeb digyffelyb yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2019, sef y 7fed flwyddyn rydym wedi cynnal y gwobrau a’r safleoedd. Drwy agor safleoedd a gwobrau ar wahân i ddarparwyr hyfforddiant, rydym yn caniatáu i bobl ifanc ymchwilio’n ddyfnach nag erioed i’r hyn y gallai eu bywyd fod fel prentis. Gan fod ein safleoedd yn cael eu penderfynu gan yr adborth a dderbyniwn gan brentisiaid, mae’n helpu pobl ifanc i gael blas ar sut beth yw gweithio a dysgu fel prentis, a phwy sy’n cynnig y cyfleoedd gorau.”

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Mae cael eich enwi fel y prif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru ac yn un o’r goreuon yn y DU yn drawiadol iawn, ond pan fydd yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosto’n annibynnol, mae hynny’n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ni chawsom unrhyw fewnbwn ac nid ydym wedi treulio amser yn gwneud cais am hyn, felly mae hyn yn newyddion da iawn i ni ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yng Ngrŵp Colegau NPTC.”

Mae’r Top 100 Employers and Top 80 Training Providers yn seiliedig yn gyfan gwbl ar farn prentisiaid a hyfforddeion sy’n ymadawyr ysgol o 100 o sefydliadau yn y DU. Cwblhaodd prentisiaid arolygon yn dadansoddi popeth am eu cyflogwyr a’u rhaglenni hyfforddiant, o ddatblygu sgiliau a dilyniant gyrfa i hyfforddiant a diwylliant y cwmni.

 

The School Leaver Awards – https://www.schoolleaverawards.co.uk

Top 100 Employers & Top 80 Training Providers – https://www.allaboutschoolleavers.co.uk/employer-rankings

Pic Caption: Pleidleiswyd dros Grŵp Colegau NPTC fel y darparwr hyfforddiant gorau yng Nghymru. Y cyflwynydd teledu enwog Tess Daly yn cyhoeddi’r sawl sydd yn y rownd derfynol yn y seremoni. (Pic Credit: Jérôme Favre – AllAboutSchoolLeavers)