Enillydd Cogydd Ifanc y Rotari

Llongyfarchiadau i Phillip Beddoes, myfyriwr 16 oed o Faldwyn sydd wedi ennill cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Rotari ar gyfer Gogledd Cymru a’r Gogledd-orllewin.  Mae Phillip yn astudio VRQ lefel 1 mewn Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Y Drenewydd.

Mae cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Rotari, a noddir gan Filippo Berio, yn gystadleuaeth genedlaethol pedwar cam gyda’r rowndiau terfynol i’w cynnal yn Leeds ar ddiwedd mis Ebrill.  Mae’r gystadleuaeth yn cefnogi ac yn annog datblygu sgiliau coginio ac yn cynnwys gweithwyr proffesiynol blaenllaw’r diwydiant yn y broses feirniadu. Mae’r rownd derfynol yn cynnig tlws ac arian parod i’r enillydd.

Daeth Phillip o’r gystadleuaeth dosbarth fel enillydd gyda thlws enfawr yn wobr.  Mae Rotari lleol Y Drenewydd wedi cefnogi Phillip yn ei ymdrechion ac roeddent yn falch i ddal i fyny ag ef a’r darlithydd Shaun Bailey ym mwyty Themâu yng Ngholeg y Drenewydd Coleg yn ddiweddar.