Mae’r Sêr Disgleiriaf yn Pefrio yn y Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr

Mae rhai o’r myfyrwyr disgleiriaf a mwyaf addawol yng Nghymru wedi’u cydnabod yn Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC a gynhelir yn flynyddol ac a gynhaliwyd eleni yng Ngholeg Castell-nedd gyda’r cyflwynydd ac actor poblogaidd Kev Johns wrth y llyw.

Roedd y noson yn dathlu llwyddiannau academaidd a phersonol, gydag un myfyriwr o bob maes academaidd yn cael ei goroni’n Enillydd Gwobr Ysgol y Flwyddyn, ynghyd â rhai gwobrau arbennig fel Prentis y Flwyddyn, Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn a Myfyriwr Addysg Uwch y Flwyddyn. Roedd y seremoni hefyd yn cydnabod y cyfraniad a wnaethpwyd gan staff drwy gyflwyno gwobr Bwrdd y Gorfforaeth a Thiwtor y Flwyddyn.

Dyma’r myfyrwyr sydd wedi disgleirio yn uwch na’r gweddill ac wedi rhoi popeth er mwyn cyflawni eu nodau a’u dyheadau.

Dyma’r myfyrwyr sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i gyflawni cymwysterau rhagorol boed yn A * neu A yn eu cymwysterau Safon Uwch neu ragoriaeth driphlyg yn eu hastudiaethau galwedigaethol, neu’r rhai sydd wedi goresgyn rhwystrau a fyddai’n peri i lawer o bobl roi’r gorau i astudio. Cymerodd y Coleg hefyd yr amser i ddathlu cyflawniadau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau, ac i gydnabod y cyfraniad a wnaethpwyd gan staff y Coleg a myfyrwyr i gyrraedd rowndiau terfynol, yn enwedig rownd derfynol WorldSkills UK yn Birmingham.

Eleni, rhoddwyd dyfarniad newydd i fyfyriwr sydd wedi trechu adfyd; myfyriwr a ddangosodd ymrwymiad i greu dyfodol disgleiriaf ac sydd wedi llwyddo er gwaethaf pob disgwyl drwy waith caled a phenderfyniad. Cyflwynwyd y wobr John Brunt er cof Llywodraethwr y coleg, John Harold Brunt OBE, nid yn unig am ei gyfraniad amhrisiadwy at reoli strategol y Coleg hwn ond ar gyfer ei galon gynnes, ei ddiffuantrwydd a’i ymroddiad i wella’r cymunedau yr oedd yn ei wasanaethu.

Enillydd cyntaf y wobr hon oedd myfyriwr TG a Chyfrifiadura, Zilvinas Milvyvas o Goleg Bannau Brycheiniog.  Pan ddechreuodd yn y coleg, nid oedd yn siarad Saesneg o gwbl. Drwy waith caled a phenderfyniad, aeth yn ei flaen o gwrs busnes lefel un i gwrs TG lefel tri ar ôl darganfod ei fod yn hoff iawn o ddatblygu gwefannau. Mae wedi mynd o nerth i nerth ac  yn edrych ymlaen erbyn hyn at astudio datblygu’r we yn y brifysgol

Daeth â’r trafodion i’w pen gyda gwobr ar gyfer myfyriwr gorau’r flwyddyn, a ddewiswyd gan Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC a aeth y wobr honno i Eve Vincent eleni.

Derbyniwyd Eve Vincent am le yng Ngholeg Clare, Caergrawnt ar ôl ennill gradd A * yn Ffrangeg a graddau A mewn Saesneg a Hanes yn ei chymwysterau Safon Uwch. Mae’r wraig ifanc anhygoel hon bellach yn astudio Ffrangeg a Rwseg yn y brifysgol uchaf ei bri ar ôl addysgu ei hun Rwseg yn 15 oed! Unwaith i Eve benderfynu ei bod am astudio Rwseg yn y brifysgol, gofynnodd am gymorth Nina, myfyriwr o Rwsia a oedd yn astudio Saesneg yng Ngholeg Castell-nedd. Roedd Eve a Nina yn arfer cyfarfod ddwywaith bob wythnos yn y Llyfrgell yng Nghastell-nedd lle yr oedd Eve hefyd yn gallu helpu Nina i wella ei Saesneg a daeth y ddau yn ffrindiau cadarn. Dilynodd Nina Eve drwy bob cam o’r broses ymgeisio ac yn awr, ar ôl blwyddyn yng Nghaergrawnt, mae Eve yn breuddwydio am yrfa ym maes cyfieithu ar y pryd.

Yn siarad yn ystod y seremoni, yn Rwseg hefyd, dywedodd Eve y byddai hi bob amser yn cofio ei hamser yng Ngholeg Castell-nedd gyda hoffter.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, ei fod mor falch o longyfarch y myfyrwyr ar eu cyflawniadau.

“Mae’r Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr yn un o brif uchafbwyntiau’r flwyddyn ac mae’n fraint i ni allu llongyfarch pawb dan sylw. Mae’r noson yn ein galluogi i gydnabod y myfyrwyr hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i’w hastudiaethau. Mae’n rhoi’r cyfle i ni ddathlu eu llwyddiant ynghyd ag ymroddiad y staff sy’n eu cefnogi ar eu taith. Diolch yn fawr iawn i bawb am wneud y digwyddiad hwn mor llwyddiannus, ac yn arbennig i’n noddwyr.

“Ar ran holl staff Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd y Llywodraethwyr, rwy’n anfon fy llongyfarchiadau diffuant i holl enillwyr y gwobrau.”

Noddwyd gan The Wave, Harcourt Colour Print sef cydweithiwr argraffu hirsefydlog y Coleg, Partner Cludiant First Cymru, a Knox and Wells, y prif gontractwr a oedd yn gyfrifol am ddatblygu adnewyddiad Bloc A/B lle yr oedd y diodydd a chanapés cyn y sioe.

Enillwyr Gwobrau Ebrill 2019:

Eve Vincent:                                        Enillydd Ysgol– Academi Chweched Dosbarth

Chris Leyshon:                                    Enillydd Ysgol – Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth

Lisa Kostromin:                                   Enillydd Ysgol – Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig

Lewie Brace:                                       Enillydd Ysgol – Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu

Isabel Hope:                                        Enillydd Ysgol – Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol

Elenor Cochrane:                                Enillydd Ysgol – Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Aarron Harris:                                     Enillydd Ysgol – Astudiaethau Sylfaen

Neirin Baggridge:                                Enillydd Ysgol – Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (noddwyd gan the Wave)

Brandon Pratton:                                Enillydd Ysgol – Cyfrifiadura a TG

Faisal Khayer:                                     Enillydd Ysgol – Peirianneg (noddwyd gan First Cymru)

Ashton Forshaw:                                 Enillydd Ysgol – Arlwyo, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth

Josie Pether:                                       Enillydd Ysgol – Hyfforddiant Pathways

Tiann Thomas Wheeler:                     Enillydd Ysgol – Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Amber Saunders:                                Prentis y Flwyddyn

Skaiste Kazlauskiene:                         Myfyriwr AU y Flwyddyn

Charlotte Reid:                                    Dysgwr y Flwyddyn Sy’n Oedolyn

Zilvinas Milvyvas:                               Gwobr John Brunt:

Sarah Sunders:                                   Tiwtor y Flwyddyn

Danny Meredith:                                 Gwobr Bwrdd y Gorfforaeth

Eve Vincent:                                        Gwobr y Prif Weithredwr