Myfyrwyr busnes CLYFAR yn ennill buddugoliaeth Syniadau Busnes

Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd, sydd wedi ennill Cystadleuaeth Syniadau Busnes Llwybrau Cadarnhaol Powys 2019.

Roedd y grŵp o fyfyrwyr Busnes ymhlith 50 a gymerodd ran drwy gyflwyno syniad busnes newydd i ateb y cwestiwn, ‘Pa Fusnes a fyddech yn ei sefydlu ym Mhowys yn 2019 a pham?’

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i’r ymgeiswyr ystyried cynnig busnes a oedd yn cynnwys rhoi manylion y cwsmeriaid targed, y math o waith hyrwyddo i’w gynnal, staffio a’r materion y gallai fod angen eu goresgyn.

O’r cystadleuwyr cyrhaeddodd tri grŵp y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyflwyno i banel o feirniaid ym mhencadlys Cyngor Sir Powys yn Llandrindod.

Yna gwnaeth cyfanswm o naw beirniad, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir a rheolwyr busnes lleol herio’r grwpiau gyda chwestiynau ar eu cysyniadau busnes.

Cyflwynodd myfyrwyr busnes Y Drenewydd, Brooke Jones, Ethan Smith, Rhys Gough a Zoe Morgan,  gynnig busnes manwl am osodiadau cartref clyfar a gipiodd sylw’r panel beirniaid ac ennill iddynt dlws a £200 o dalebau Amazon.

Roedd y grŵp yn falch iawn o ennill ac yn gobeithio fod hyn yn gyfle i agor drysau ar gyfer datblygu eu cysyniad ymhellach.

Roedd y Darlithydd Busnes Amanda Disley wrth ei bodd â’r fuddugoliaeth, a dywedodd: “Rwy’n falch iawn o’r myfyrwyr. Maen nhw’n sicr wedi ystyried eu syniadau’n ofalus, gan hyd yn oed fynd ati i brofi cynnyrch ac roeddent yn broffesiynol iawn pan o dan bwysau yn y cyflwyniad.”

Bydd y grŵp yn cwrdd â’r cabinet eto i drafod posibiliadau pellach ynghylch eu syniadau.

Da iawn i bawb!