Mae seren leol yn ysbrydoli dysgwyr Cymraeg gydag ymweliad syrpreis

Cafodd myfyrwyr Cymraeg yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ymweliad annisgwyl arbennig yn ddiweddar, gan neb llai na seren  Pobol Y Cwm Richard Lynch!

Siaradodd yr actor lleol, sy’n chwarae rhan Garry Monk yn y gyfres Gymraeg boblogaidd, gyda’r grŵp yn Gymraeg ac atebodd yn agored pob cwestiwn a daflwyd ato am ei waith a’i fywyd, wrth iddynt drafod ei rolau eraill ar y teledu ac yn y theatr, yn cynnwys Y Gwyll, The Hollow Crown, a sawl drama Shakespeare yn Saesneg ac yn y Gymraeg.

Roedd myfyrwyr hefyd yn llawn cyffro i glywed mwy am ei rôl i ddod yn y gyfres newydd, “Un Bore Mercher”.

Llawer o ddiolch i Richard am ei ymweliad, gan fywiogi ac  ysbrydoli’r dosbarth – ac i ddarlithyrr Bannau Brycheiniog Simon New am wneud yr ymweliad yn bosibl!

Diddordeb mewn ymuno ag un o’n cyrsiau dysgu i oedolion? Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi! Cysylltwch â Jo Howells yn joanne.howells@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01686 614454.