Mae ‘Super Joshua’ yn sleifio heibio ar hyd y llwybr i lwyddiant sgïo

Mae Joshua Price, sef seren Brydeinig y byd sgïo a myfyriwr chwaraeon, wedi dod â dwy fedal adre o’r Artemis Anglo Scottish Cup 2019 a gynhaliwyd yn Pila, yr Eidal.

Yn dilyn ei lwyddiant y llynedd yn y Welsh Alpine Championships (gallwch ddarllen amdano yma), enillodd Josh fedal yn y Super G a’r Slalom, yn cystadlu yn erbyn cyfoedion a ddaeth o ar draws Ewrop. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhan o hyfforddiant tîm Prydain Fawr a bydd Joshua yn treulio’r misoedd nesaf gyda’r tîm hwnnw. Bydd Joshua, sy’n astudio Chwaraeon Lefel 3 Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd, yn Academi Chwaraeon Llandarcy yn parhau gyda’i astudiaethau, ochr yn ochr â’i sgïo yn yr Eidal. Mae addysg yn rhan o raglen tîm Prydain Fawr a bydd ei ddarlithwyr yn ei gefnogi drwy e-bost.

Sali Ann Millward, Dirprwy Bennaeth Ysgol: Mae’r Adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ei bodd wrth weld llwyddiant parhaus Josh; “Mae’n gyfle gwych i Joshua ac mae’n dangos ymrwymiad ein staff i gefnogi dilyniant myfyrwyr gyda chwaraeon elît”.

Bydd cystadleuaeth nesaf Josh, yn Chambery, y Swistir, mewn cwpl o wythnosau. Mae ganddo amserlen hyfforddi llawn dop yn y cyfnod cyn y digwyddiad hwn, a bydd llawer o brofion ffitrwydd yn eu hwynebu wrth dreulio cryn dipyn o amser yn y gampfa gyda’i hyfforddwr ffitrwydd hefyd.

Pob lwc Josh! Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf am gystadlaethau Josh ar draws sianeli’r cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn i gadw mewn cysylltiad.

Gallwch ddarganfod mwy am y cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus sydd ar gael gennym ar draws Grŵp Colegau NPTC yma:

Capsiwn ar gyfer y llun: Llun o Joshua Price yn yr Artemis Anglo Scottish Cup 2019 yn Pila, yr Eidal.