Gwerthiant Cacennau Nadolig y Prentisiaid Iau

Ers i’r prentisiaid iau newydd gyrraedd ym mis Med, maent wedi gwneud cryn dipyn o argraff ar draws Grŵp Colegau NPTC, yn enwedig wrth gynnal gwerthiant cacennau er budd Shelter Cymru yng Ngholeg Afan yn ddiweddar.

Mae Prentisiaethau Iau yn ffordd newydd unigryw o ddysgu a dechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol, ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed. Yn ystod blwyddyn 10 a blwyddyn 11, mae pobl ifanc sydd ar raglen Prentisiaid Iau yn dod i’r coleg yn lle’r ysgol.  Mae’r rhaglenni unigryw hyn, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Ysgolion Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Colegau NPTC yn cynnig llwybr newydd sbon ar gyfer pobl ifanc i hyfforddi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cynlluniwyd a chynhaliwyd y gwerthiant gan brentisiaid iau’r Gwasanaethau Cyhoeddus, a chynhyrchwyd y cacennau i gyd gan fyfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch y Coleg, gyda’r holl elw yn mynd i Shelter Cymru.

Dywedodd Dave Rush, Rheolwr Campws Coleg Afan: “Mae’r holl brentisiaid iau wedi gweithio’n galed iawn i gynllunio a rhedeg y digwyddiad hwn ar gyfer eu dewis elusen, yn ogystal â helpu staff a myfyrwyr Coleg Afan i fwynhau ysbryd y Nadolig.”