Dosbarth meistr gyda chomedïwr stand-yp Sarah Bridgeman

Mae myfyrwyr drama Grŵp Colegau NPTC wedi cael goleuni pellach ar fod yn gomedïwr stand-yp pan ddaeth y coediwr Sarah Bridgeman i Grŵp Colegau NPTC yn ddiweddar i roi dosbarth meistr.

Mae Sarah wedi bod yn perfformio comedi ledled y DU ers 2009. Perfformiodd yn y Glee Club ac mae hi’n gwneud gigs yn rheolaidd i Mirth Control, un o’r asiantaethau bwcio mwyaf ar gyfer perfformwyr comedi yn y DU. Cafodd lwyddiant mawr mewn amryw o gystadlaethau ac mae hi’n perfformio’n rheolaidd ar Radio Cymru fel sylwebydd newyddion doniol a chyn bo hir bydd hi’n cymryd rhan mewn rhaglen gwis ar gyfer y cwmni teledu Made in Cardiff.

Ar ben adrodd ei stori am sut ddechreuodd weithio yn y diwydiant, rhoddodd Sarah ei gwybodaeth fewnol am ei phrofiad o fod yn gomedïwr stand-yp ynghyd ag awgrymiadau a chyngor i gomediwyr newydd.

Dywedodd Zoe Arrieta, Arweinydd Pwnc: Drama yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae’n gyfle gwych ar gyfer ein myfyrwyr i ddysgu gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant ar draws pob disgyblaeth. Roedd yn braf cael Sarah yn yr ystafell ddosbarth ac roedd y myfyrwyr wrth eu bodd.”