Banc Bwyd Aberhonddu – Apêl Myfyrwyr

Mae myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog (fel rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn gofyn am eich rhoddion am eu bod wrthi’n casglu bwyd ac eitemau ar gyfer Banc Bwyd Aberhonddu.

Fel rhan o’u Her Gymunedol sy’n rhan o’u cwrs, bydd y grŵp yn gwneud eu casgliad cyntaf yn  ffreutur y coleg ar ddydd Iau 22 Tachwedd (9.30 – 12.00).

Byddant hefyd yn cynnal casgliadau ychwanegol ar ddydd Mercher 28 a dydd Iau 29 Tachwedd (9.30 – 12.00).

Dyma restr o’r bwyd a’r eitemau eraill sydd eu hangen, gan ddechrau gyda’r eitemau mwyaf eu hangen yn gyntaf:

Diaroglydd
Cewynnau Maint 5 a 6
Llaeth sych
Byrbrydau sawrus
Hylif/powdr golchi a chyflyrydd
Tatws tun
Cig tun
Byrbrydau melys/siocled
Pwdin sbwng
Bagiau siopa cryf

Mae parsel bwyd nodweddiadol yn cynnwys:

Grawnfwydydd brecwast
Cawl
Pasta
Reis
Saws pasta
Ffa tun
Cig tun
Llysiau tun
Ffrwythau tun
Te neu goffi
Siwgr
Bisgedi/byrbrydau

Os na allwch ddod i’r diwrnodau casglu uchod, mae croeso i chi ddod ag unrhyw roddion i’r coleg, lle bydd y tîm ar gael yn ystafell B154 (Lluniau).

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Helen Griffiths: helen.griffiths@nptcgroup.ac.uk