Mae’r Rhaglen Hyfforddeiaethau Ymgysylltu yn gweddnewid bywyd Josie

Mae Rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu gyda Hyfforddiant Pathways, adran dysgu seiliedig ar waith Grŵp Colegau NPTC wedi gweddnewid bywyd Josie Pether.

Mae gan Josie, 19, o Glyn-nedd awtistiaeth a gall newidiadau yn ei bywyd, yn enwedig cyfarfod pobl newydd achosi gofid ac ymosodiadau panig.

Diolch i Hyfforddiant Pathways, mae hi wedi cael lleoliad gwaith manwerthu yn Ymddiriedolaeth Shaw, elusen genedlaethol sy’n helpu pobl i ddechrau gweithio, ennill addysg, datblygu eu gyrfa, gwella eu llesiant ac ailadeiladu eu bywydau.

Bellach mae siwrnai ddysgu Josie wedi’i gydnabod wrth iddi gael ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd hi’n cystadlu i ennill Hyfforddeiaeth Ddysgu (Ymgysylltu) y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo o fri yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), cefnogir y wobr o fri gan bartner y cyfryngau, Media Wales. Ariennir  y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae tri deg o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu disglair ar draws Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mwynhaodd Josie ei lleoliad yn Ymddiriedolaeth Shaw cymaint nad oodd hi wedi colli un diwrnod o gwbl yn ystod cyfnod o bum mis a nawr mae hi wedi camu ymlaen i i’r rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 ym maes manwerthu. Gyda hwb i’w hyder, mae hi bellach yn gweithio ar lawr y siop ac yn defnyddio’r til, sy’n newid dramatig o ystyried y ffaith na allai hi wneud cyswllt llygaid o gwbl pan ddechreuodd hi.

Mae ganddi grŵp o ffrindiau agos yn Ymddiriedolaeth Shaw ac mae hi wedi ennill sgiliau newydd a fydd yn arwain gobeithio at gyflogaeth amser llawn yn y dyfodol.

“Mae pawb wedi bod mor gefnogol ac yn amyneddgar tuag ata i,” dywedodd Josie. “Gyda’u cymorth ac anogaeth, dwi’n ennill hyder a sgiliau newydd. Dwi’n falch fy mod i wedi penderfynu ymuno ag Hyfforddiant Pathways gyda lleoliad yn Ymddiriedolaeth Shaw am fod y ddau sefydliad wedi fy helpu mewn ffyrdd gwahanol ac wedi newid fy mywyd er gwell.”

Dywedodd Lee Roberts, Cynghorydd Hyfforddiant Pathways, Grŵp Colegau NPTC bod Josie yn enghraifft berffaith o sut gall y rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu weithio gydag unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol neu faterion yn ymwneud â hyder a sgiliau cymdeithasol.

“Yn yr achos yma, yn ogystal â galluogi Josie i symud ymlaen i lefel addysg uwch, mae hefyd wedi caniatáu iddi oresgyn y materion hynny sydd wedi ei phlagio am y rhan fwyaf o’i bywyd,” ychwanegodd. “Dwi’n hynod o falch o Josie a hoffwn ddymuno pob lwc iddi hi yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Ian Jones, Rheolwr Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC:

” Rydyn ni i gyd yn hynod o falch o Josie, mae wedi bod yn bleser i fod yn rhan o’i daith a’i dilyniant.  Mae’r enwebiad yma yn tystio, nid yn unig i waith caled a phenderfyniad Josie ond hefyd i’r cymorth, arweiniad ac anogaeth y mae’r tîm Hyfforddiant Pathways bob amser yn eu rhoi i’n holl brentisiaid.”

Wrth longyfarch Josie ar gael ei henwi ar y rhestr fer i dderbyn gwobr, dywedodd Eluned Morgan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn arddangos llwyddiant rhaglenni Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru a chyflawniadau ein prentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu a hyfforddeion disglair.

“Mae prentisiaethau yn ffordd wych i unigolion ennill sgiliau gwerthfawr a phrofiad, wrth ennill cyflog ar yr un pryd a dull i gyflogwyr sicrhau bod gan eu gweithlu’r sgiliau i ddiogelu dyfodol eu busnesau.

“Nid yw cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau sydd o fudd i Gymru gyfan erioed wedi bod yn bwysicach.”