Cymorth Dihafal gan Grŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymuno â’r clybiau Uwch Gynghrair Principality lleol Dewiniaid Aberafan a Chlwb Rygbi Castell-nedd cyn y tymor rygbi newydd.

Mae’r newidiadau diweddar i strwythur rygbi clybiau Cymru wedi dwyn llawer o sylw i Uwch Gynghrair y Principality. Gyda’r PRO 14 yn symud i deledu tanysgrifiad, bydd yr Uwch Gynghrair yn cael lle blaenllaw ar y BBC, gyda gemau byw wythnosol yn cael eu darlledu a rhaglen uchafbwyntiau Scrum V.

Mae’r Coleg wedi sicrhau pecynnau nawdd cynhwysfawr gyda’r ddau glwb, sy’n cynnwys byrddau hysbysebu a noddi chwaraewyr, yn ogystal â hysbysebu print a digidol.

Dywedodd Pennaeth Marchnata, Fay Harris: “Rydym yn falch iawn o ail-gadarnhau ein partneriaethau â dau glwb rygbi cymunedol blaenllaw. Yn Ngrŵp Colegau NPTC, mae gennym dreftadaeth gyfoethog mewn chwaraeon ac, ynghyd â’n cymunedau lleol, rydym yn anelu at roi cyfleoedd i nifer cynyddol o bobl ifanc mewn chwaraeon, nid yn unig drwy addysg ffurfiol, ond hefyd drwy ein rhaglen Iechyd a Llesiant, ‘Get Active’.”

Ychwanegodd Chris Davies, Rheolwr Masnachol a Marchnata Clwb Rygbi Aberafan: “Rydym yn hynod o falch y bydd Grŵp Colegau NPTC yn noddi Clwb Rygbi Aberafan y tymor hwn. Maent yn rhan annatod o’r gymuned ym Mhort Talbot ac yng Nghastell-nedd. Mae myfyrwyr chwaraeon y Coleg wedi bod yn helpu’r clwb yn y gymuned drwy Gynghrair Dewiniaid Tata Steel, felly mae hon yn sicr yn berthynas bwysig ac yn berthynas yr ydym yn gobeithio fydd yn para am amser hir.”

Mae’r ddau dîm ar hyn o bryd yn cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr y Coleg, gan gynnwys Joe Gage, Rhys Henry a Frankie Jones yn Aberafan, a Tiaan Thomas-Wheeler, Reuben Morgan-Williams, ac Iwan Evans yng Nghastell-nedd.

Dywedodd Rheolwr Masnachol Castell-nedd Gareth Howells: “Mae rygbi Castell-nedd yn falch iawn o gael Grŵp Colegau NPTC yn cefnogi tîm rygbi uwch gynghrair y dref, gyda’r myfyriwr o’r Coleg Garin Lloyd yn chwarae dros Gastell-nedd a’r darlithydd Paul Williams yn hyfforddi cefnwyr Castell-nedd. Mae’r brandio yn edrych yn wych o gwmpas y cae ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal gemau’r coleg ar dir byd-enwog y Gnoll y tymor hwn.”

Dymunwn pob lwc i’r ddau dîm ar gyfer yr hyn sy’n sicr o fod yn dymor cystadleuol ac edrychwn ymlaen at weld ein myfyrwyr presennol yn mynd ymlaen i gynrychioli’r ddau glwb yn y dyfodol.

Mae Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi croesawu Aberafan a Chastell-nedd yn y gorffennol i hyfforddi yn ei gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys; neuadd chwaraeon aml-ddefnydd elît o safon genedlaethol, wal ddringo, llain 3G pob-tywydd, Ardal Gemau Aml-Ddefnydd (MUGA), ystafell cryfder a chyflyru a thrac redeg dan do gydag ardal gynhesu.

Mae’r Coleg yn cynnig cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus  amser llawn, rhan-amser ac addysg uwch yng Nghastell-nedd / Port Talbot ac ym Mhowys.

Gallwch weld ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yma

Ar ddydd San Steffan, bydd Aberafan yn erbyn Castell-nedd yn cael ei dangos yn fyw ar BBC Dau a gallwch weld y ddau glwb ar ddarllediadau byw y BBC drwy gydol y tymor.