Mae Jayne Sandells yn ymddeol

Mae Coleg Bannau Brycheiniog yn anfon ei ddymuniadau gorau at Jayne Sandells, sy’n rhoi’r ffidil yn y to ac yn ymddeol ar ôl perthynas hir gyda’r Coleg.

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Jayne, a ddechreuodd yn ôl yn 1974 wrth iddi wneud y daith fer ar draws y ffordd o Ysgol Uwchradd Aberhonddu.

Coleg Howel Harris oedd enw’r coleg ar y pryd a chyflawnodd Jayne gwrs ysgrifenyddol yno cyn ymgymryd â rolau gyda Chyngor Sir Powys, yr Awdurdod Iechyd Lleol, Cymdeithasau Adeiladu ac fel Clerc i’r Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd leol.

Dychwelodd Jayne i’r coleg ar sail reolaidd, yn cwblhau dosbarthiadau nos a rhan-amser. Enillodd gymwysterau mewn teipio â llaw, prosesu geiriau a chyflawnodd Lefel 3 NVQ Edexcel fel Cynorthwyydd Addysgu.

Yng Ngholeg Coleg Powys gynt, astudiodd Jayne radd mewn Hanes a Saesneg, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Ochr yn ochr â ‘i chwrs roedd hi’n gweithio ar ein campws Aberhonddu fel cynorthwyydd gweinyddol rhan-amser.

Bwrodd Jayne ymlaen â’i hastudiaethau ac enillodd Gradd Meistr mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2009, cyn dychwelyd i Goleg Powys i astudio TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion).

Dysgodd wedyn ar gyrsiau Mynediad i addysg uwch am ddwy flynedd, cyn dechrau ei rôl bresennol fel swyddog arholiadau yn y Coleg.

Bydd Jayne yn edrych ymlaen at fwynhau ei hymddeoliad nawr drwy deithio, gwneud crefftau (cwiltio; gwnïo; gwau) yn ogystal â darllen!

Hoffai pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC ddweud diolch yn ddiffuant i Jayne am ei holl waith caled yn ystod ei pherthynas hir gyda Choleg Bannau Brycheiniog.

Pob lwc ar gyfer y dyfodol, Jayne. Gobeithiwn eich gweld chi’n fuan!