Yr anrhydedd uchaf ar gyfer Cadeirydd y Llywodraethwyr Grŵp Colegau NPTC

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd (LLD) gan Brifysgol Abertawe i Gaynor Richards MBE, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Grŵp Colegau NPTC.

Mae’r Wobr Anrhydeddus yn un o’r anrhydeddau mwyaf arwyddocaol ym maes addysg uwch ac fe’i cyflwynir i unigolion i gydnabod cyflawniad rhagorol i’r brifysgol neu i’r rhanbarth. Rhoddwyd yr anrhydedd Gaynor am y cyfraniad, gwerth a’r gwahaniaeth y mae wedi eu gwneud yn y gymuned, rhywbeth a gydnabuwyd wrth iddi gael ei phenodi fel Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg yn 2013/14 gan y Frenhines, ar ôl derbyn MBE am wasanaethau i’r sector gwirfoddol/cymunedol yn 2008.

Ers 2011, mae Gaynor wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Grŵp Colegau NPTC. Mae ei rôl yn cynnwys goruchwylio nifer o is-gwmnïau mentrau cymdeithasol (Menter Gymdeithasol) y mae eu helw yn cael ei hail-fuddsoddi yn y sefydliad sy’n darparu Addysg Bellach ac Addysg Uwch i’r boblogaeth leol.

Mae Gaynor hefyd yn Gyfarwyddwr  Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS), swydd y mae hi wedi’i dal ers 1997. Yn ystod ei stiwardiaeth mae CVS wedi tyfu o sefydliad bach gydag incwm blynyddol o £105k yn unig, i un sylweddol sydd wedi cefnogi sefydliadau gwirfoddol lleol eraill i sicrhau ymhell dros £50m o grantiau. Mae CVS erbyn hyn yn sefydliad sy’n ganolog i fywyd y gymuned. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi datblygu ac arwain y sefydliad i fod yn un o’r cynghorau gwasanaethau gwirfoddol arweiniol yng Nghymru.

Mae gallu Gaynor i ddylanwadu ar newid ym meysydd fel addysg blynyddoedd cynnar, iechyd, gwydnwch cymunedol, yr economi a chyflogadwyedd eisoes wedi’i gydnabod gan y sector ehangach a gan y Llywodraeth – ar sail leol, genedlaethol ac ar draws y DU,  rhywbeth a ardystir gan y nifer o fforymau, paneli, ac adolygiadau y mae hi wedi cael ei gwahodd i gymryd rhan ynddynt.

Mae’r rhain yn cynnwys gweithredu fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar y strategaeth gofal plant newydd; cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Gofal Plant y DU sy’n cael ei gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus Harriet Harman; a chadeirio sefydliad gofal plant y tu allan i’r ysgol sef  – Clybiau Plant Cymru.

Sefydlodd Gaynor un o’r mentrau cymdeithasol gofal plant annibynnol cyntaf yng Nghymru, trwy ddatblygu model pryd na allai neu ni fyddai’r sector cyhoeddus na’r sector preifat sefydlu gwasanaeth lleol mawr ei angen.  Mae Tiddlywinks wedi bod yn gweithredu fel busnes cynaliadwy yng Nghwm Tawe ers 21 mlynedd.  Fe’i enwir yn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Gofal Plant Cymru fel model o arfer da ac mae’n parhau i gyflogi 26 aelod o staff.

Mae enghreifftiau eraill o’i chyfraniad arloesol yn cynnwys arwain y Cytundeb Compact cyntaf rhwng awdurdod lleol a’i drydydd sector lleol; arwain y Cytundeb Compact cyntaf rhwng Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru a’r Trydydd Sector; a chwaraeodd rôl arweiniol yn y Cytundeb Compact cyntaf rhwng Heddlu De Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Trydydd Sector ar draws ardal Heddlu De Cymru.

Ceir llawer o enghreifftiau eraill yn cynnwys ei phenodiad yn 2009 fel yr aelod nad yw’n swyddog cyntaf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, rôl yr oedd yn ei wneud am y tymor hiraf posibl sef wyth mlynedd. Fel aelod o’r Bwrdd fe’i penodwyd fel ei Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc, Hyrwyddwr yr iaith Gymraeg a chadeirydd y Pwyllgor Gweithlu a Threfnu a Datblygu.

Yn ei rôl fel Hyrwyddwr Plant a Phobl Ifanc arweiniodd Gaynor y broses o ddatblygu’r Siarter Hawliau Plant gyntaf yn y DU a chefnogi datblygiad y Bwrdd ieuenctid Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Hefyd mae Gaynor wedi ffeindio’r amser i gymryd rhan yn effeithiol yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Cymoedd, yr adolygiad annibynnol ar Gynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Pwyllgor Llywodraethu Llywodraeth Cymru, Gweithgor Mentrau Cymdeithasol Cymru; i gadeirio’r seilwaith newydd Trydydd Sector Rhwydwaith Cymru ar ymgysylltu a dylanwadu ac yn 2015, cadeiriodd adolygiad thematig cydweithredol o’r enw Marwolaeth Annisgwyl Sydyn mewn Babandod.  Yn 2014 fe’i penodwyd hi fel un o’r 3 llysgennad cyllid UE o oedd yn gweithio o dan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Cymru – er mwyn helpu i hyrwyddo a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a grëwyd gan raglen yr UE i Gymru a reolir yn uniongyrchol ac mae wedi gwasanaethu fel aelod o’r Bwrdd o’r Pwyllgor BIG Loteri Cymru.

Mae Gaynor hefyd wedi derbyn penodiad i Gyngor y Brifysgol Abertawe yn ddiweddar.

Wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd: ‘ Rwy’n teimlo anrhydedd mawr ac yn hynod o ostyngedig i dderbyn y wobr hon gan un o’r sefydliadau mwyaf blaenllaw yng Nghymru.  Rwy’n falch o’r cysylltiadau gyda Phrifysgol Abertawe, prifysgol sy’n dangos uchelgais mor ysbrydoledig a sefydliad sydd wedi tyfu mewn maint ac enw da yn ystod y blynyddoedd diwethaf dan fy llygaid.  Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio’n agos â’r Brifysgol yn y dyfodol ‘.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r Coleg yn hynod o falch o gyflawniadau Gaynor ac mae’r ddoethuriaeth er anrhydedd yn gydnabyddiaeth o’i hymroddiad a’i hymrwymiad i helpu i wella bywydau yn y gymuned ac mae’n dra haeddiannol.”