Llwyddiant Arian ac Efydd yn y gystadleuaeth World Skills

Mae dau fyfyriwr o’r Ysgol Cyfrifiadura a TG wedi ennill medal arian a medal efydd yng nghystadleuaeth ranbarthol Cymru WorldSkills UK.

Cymerodd y myfyrwyr, Zack Evans a James Craddock-Jones ran yn y Rownd Ranbarthol ym maes Dylunio’r We a gynhaliwyd yng Ngholeg Sir Gâr.

Mae Zack a James, sy’n 16 a 17,oed yn astudio cwrs Lefel 3 Ymarferwyr TG ar hyn o bryd sy’n cynnwys modiwlau am raffeg ddigidol, dylunio gwefannau a datblygu gemau cyfrifiadurol.

Rhoddwyd brîff proffesiynol i’r myfyrwyr i ymgorffori dyluniadau gosod mewn gwefan sy’n gweithio’n hwylus o’r cychwyn cyntaf hyd at y cam olaf mewn cystadleuaeth fyw, gan gynnwys creu gwefan portffolio ymatebol y bydd angen ei defnyddio ar draws platfformau.

Bydd y rownd derfynol genedlaethol yn cynnwys dylunio gwefan o’r brîff a roddwyd o ddelwedd benodol, defnyddio Client Side Customisation a JavaScript ac yn olaf, creu cronfa ddata ar gyfer cwmni a gwneud cronfa ddata’n ddiogel drwy ddefnyddio PHP.

Dywedodd y myfyrwyr: “Rydyn ni wedi cael cyfle i gymhwyso’r sgiliau yr ydyn ni wedi eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth i brosiectau a bennwyd gan WorldSkills, mae wedi bod yn llwyfan gwych i ehangu sgiliau allweddol.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn parhau i lwyddo ym meysydd  Cyfrifiadura a TG gyda’i gyrhaeddiad o ran prif gymwysterau yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn o 95% i 98%.

Eira Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau: Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC:

“Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfleoedd gwych i fyfyrwyr i brofi eu syniadau creadigol a’u gallu technegol, ar yr un pryd ag ymgyfarwyddo â briffiau proffesiynol gan gynrychiolwyr y diwydiant.”

Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol yr ydym wedi cael ymgeiswyr llwyddiannus mewn cystadlaethau WordSkills yng Nghymru a’r DU. Mae’r gyfradd lwyddo ar gyfer rhaglenni TG a Chyfrifiadura yn parhau’n uchel gyda chyfradd lwyddo o 100% mewn TGCh a 94% mewn Cyfrifiadureg Yn y rhaglen Cyfrifiadureg, roedd tri myfyriwr hefyd a oedd wedi’u cynnwys ymhlith y 20 myfyriwr a gyflawnwyd y  canlyniadau Safon Uwch gorau yn y DU.