Graddau ar Garreg eich Drws: Taith Abi

Mae gan Goleg Bannau Brycheiniog rywbeth at ddant pawb. Nid oes ots pa sgiliau a phrofiad sydd gennych chi, a pha adeg eich bod wedi cyrraedd yn eich bywyd, bydd gennym gwrs i’ch helpu i gyflawni’ch uchelgeisiau.

Cafodd cyn-fyfyriwr Abi Morse y fath profiad wrth iddi benderfynu dychwelyd i ddysgu. Wedi gadael addysg ers sbel ac wedi cael babi, nid oedd hi’n siŵr pa yrfa yr hoffai ei dilyn.

Yn 2014, cofrestrodd am ein gradd BA mewn Rheolaeth Fusnes a TG, ac mae hi wedi camu yn ei blaen ers hynny.

Ar ôl astudio gyda ni am flynyddoedd, mae hi’n gweithio fel Rheolwr Rhyddhad erbyn hyn ar gyfer CGI – un o’r cwmnïau TG mwyaf yn y byd.

Wrth sôn am ei thaith yn mynd yn ôl i’r byd addysg, dywedodd “Mae’n beth dychrynllyd os nad wyt ti wedi astudio am gyfod hir ac yn arbennig os oes plentyn ‘da ti hefyd, ond fe’i gwnaeth ta beth. Doedd dim clem ‘da fi ble i fynd neu beth i’w wneud, felly ymwelais i â Choleg Bannau Brycheiniog; Clywais fod y Coleg yn cynnig cyrsiau gradd erbyn hyn.

“Treuliais i dair blynedd o astudiaethau yno ac roeddwn i wrth fy modd!  Yn ystod y cwrs daeth yn amlwg fy mod i’n mwynhau’r ochr TG yn fawr iawn, ond roeddwn i bob amser yn becso – beth alla i wneud ar ôl i fi orffen astudio – be nesa’??

“Yn fy ail flwyddyn, penderfynais ymweld â’r cynghorydd gyrfaoedd.  Aethon ni ati i greu nifer o CVs amrywiol am wahanol fathu o swyddi ac roedd hi’n arbennig o gymwynasgar a chefnogol drwy gydol y broses.  Siaradwch â’r cynghorwyr gyrfaoedd – dyna fy nghyngor i!

“Hoffwn hefyd argymell cael swydd wirfoddol yn y diwydian,t am fy mod i felly wedi cael gwell syniad o beth oedd ei eisiau arna i

“Ar ôl llawer o gyfweliadau, ces i alwad oddi wrth CGI – un o’r cwmnïau TG mwyaf yn y byd.  Ar ôl cyfweliad pedwar awr, dwi wedi cyrraedd y brig gyda’r swydd orau!

“Mae hi’n swydd mor ddiddorol ac mae nifer o rolau amrywiol i’w cyflawni.  Nid jyst un peth yn unig yr ydych chi’n ei ddysgu.

“Dechreuodd fy nhaith yn Aberhonddu ac erbyn hyn dwi’n gweithio ledled y wlad.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y graddau sydd ar gael gennym