Mae partner Grŵp Colegau NPTC wedi cael ei enwebu am Wobr VQ am brentisiaeth aml-grefft newydd

Mae galwadau gan denantiaid i “ddatrys pethau y tro cyntaf” yn hytrach na chael nifer o ymweliadau gan wahanol grefftwyr i gwblhau tasg wedi ysgogi Tai Tarian, sef cymdeithas dai o Gastell-nedd, i weithio gyda Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer prentisiaethau.

Nod y brentisiaeth cynnal a chadw aml-grefft yw ateb anghenion y diwydiant cynnal a chadw. Mae Tai Tarian wedi gweld bod y brentisiaeth yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol, yn lleihau costau ac yn annog gweithwyr i weithio mewn ffordd fwy effeithlon.

Mae datrys pethau y tro cyntaf wedi galluogi’r gymdeithas dai i gyflawni a chwblhau mwy o dasgau, gan arwain at gyfradd fodlonrwydd uwch ymhlith tenantiaid wrth i fwy o bobl eu canmol ac wrth i nifer y cwynion ostwng.

Mae Tai Tarian bellach wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru, sy’n gwobrwyo unigolion a sefydliadau am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Exchange, Caerdydd, ar Fai 3, i gyd-fynd â Diwrnod VQ. Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy’n trefnu Gwobrau VQ.

Mae Tai Tarian, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, wedi gweld bod cael grŵp brwdfrydig o brentisiaid sy’n cyfathrebu, yn cymryd rhan ac yn cyfrannu’n fwy effeithiol hefyd wedi arwain at gyfradd is o drosiant ymhlith staff ac at lai o ddiwrnodau salwch.

“Ymhlith y manteision eraill o gael gweithlu sydd wedi’i hyfforddi i lefel uchel y mae’r gallu i lenwi bylchau allweddol mewn sgiliau a pharatoi’r gweithlu ar gyfer gofynion sgiliau yn y dyfodol, gan gynnwys cynllunio at olyniaeth,” meddai Jaime Greig, uwch swyddog gweithrediadau Tai Tarian.

Mae’r gymdeithas adeiladu’n cefnogi staff drwy gynnig popeth o hyfforddeiaeth i brentisiaethau i gyrsiau addysg uwch. Yn y 18 mis diwethaf, mae pump o brentisiaid aml-sgil ynghyd â thrydanwr wedi symud i swyddi amser llawn ar ôl cwblhau eu cymwysterau.

Mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn darparu cymwysterau galwedigaethol i 12 o weithwyr Tai Tarian nad oedd â chymwysterau cynt, a hynny diolch i’r rhaglen Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cefnogi’r rhaglen hon drwy Lywodraeth Cymru, a’i nod yw gwella sgiliau a chynyddu pa mor gynhyrchiol yw’r gweithlu yn y de-orllewin.

Mae Tai Tarian yn gweithio’n agos hefyd gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle, sef rhaglen brentisiaethau ar y cyd, a chyda sefydliadau a chwmnïau partner mawr eraill.

Dywedodd Esther Harris, rheolwr gweithrediadau Tai Tarian, bod y gymdeithas yn credu mewn “datblygu ei staff ei hun” ac y byddent yn parhau i weithio’n agos gyda Grŵp Colegau NPTC er mwyn sicrhau parhad, meithrin arferion gorau, a chreu prentisiaid brwdfrydig.

Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn canolbwyntio ar gyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud gwir gyfraniad tuag at wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.

Yn ogystal â’r seremoni wobrwyo, anogir darparwyr dysgu drwy Gymru i drefnu digwyddiadau lleol ar Ddiwrnod VQ, ac i sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn rhan o’r rheini.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn bwysig i’r economi, i gwmnïau ac i unigolion, gan eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i’w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a’r byd gwaith.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae gwobr VQ yn arwydd o ymroddiad i broffesiwn penodol, ac yn dangos i bobl eraill eich bod wedi gwir ymrwymo i ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol.

“Mae’r gwobrau yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.”

Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

Yn y llun: Jaime Greig, uwch swyddog gweithrediadau Tai Tarian, gyda staff cynnal a chadw.