Dathlu Syniadau Mawr Grŵp NPTC

Bydd disgyblion o Grŵp Colegau NPTC o golegau yn brolio’u syniadau yn erbyn y myfyrwyr gorau o golegau, prifysgolion a diwydiant o ar draws Cymru yn hwyrach y mis yma.

Bydd Dathlu Syniadau Mawr yn dathlu – Digwyddiad Arddangos Cenedlaethol i Gymru yn denu entrepreneuriaid addawol o bedwar ban Cymru a chynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth 2017.

Mae’r Coleg wedi cael pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer y digwyddiad ac maent yn cynnwys: ‘On the Go’- Grŵp Lefel 3 Teithio a Thwristiaeth o Goleg Castell-nedd gyda’i syniad sy’n cynnwys bwcio a threfnu teithiau ar ran darlithwyr er mwyn lleihau’r straen a chynyddu ymweliadau addysgol. “Animazing” – Disgybl Busnes Lefel 3 o Goleg Castell-nedd sydd wedi’i ysbrydoli gan ffasiwn a diwylliant Japan ac sydd wedi trosi’i ddiddordeb yn fusnes drwy ddylunio dillad neilltuol Japaneaidd.   “David’s Quails” – Disgybl busnes lefel 3 o Goleg Bannau Brycheiniog sy’n gwerthu wyau soflieir. “Trosi Twt” – yn cynnwys 6 dysgwyr ‘Gateway’ o Goleg Y Drenewydd, sy’n dylunio cynhyrchion o ddeunyddiau sydd wedi’u hailgylchu megis clustlysau, allweddellau a nwyddau eraill.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’r rhaglen Syniadau Mawr Cymru, mae’r gwaith yn rhan o’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd drwy helpu’r rheiny sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain neu symud eu syniadau yn eu blaen.  Dywedodd Swyddog Menter y Coleg Kelly Jordan: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ffaith bod 4 o’n hymgeiswyr wedi cael eu henwi yn y rhestr fer. Mae’r cyfle yma yn siawns i’r myfyrwyr herio’u hunain yn erbyn y gorau yng Nghymru trwy ddatblygu sgiliau mewn ffordd ymarferol ac mae’n gyfle iddyn nhw ddangos i bobl eraill yn union beth maen nhw’n yn gallu ei gyflawni. Pob lwc i’n hymgeiswyr am y diwrnod, bydden ni yna i’w cefnogi nhw pob cam o’r ffordd.”

Oes gennych syniad busnes y mae angen cymorth arnoch i’w ddatblygu?  Cysylltwch â Centerprise, Grŵp NPTC ar 01639 648567 neu e-bostiwch centerprise@nptcgroup.ac.uk