Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n ffitwyr nwy profiadol sydd â gwybodaeth a sgiliau nwy presennol sy’n ceisio adnewyddu eu tystysgrifau.
Rhaid adnewyddu cymwysterau ACS bob 5 mlynedd i sicrhau y gall peirianwyr nwy barhau i weithio’n ddiogel ac yn gyfreithiol.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant a chymhwyster nwy cychwynnol i safon Diwydiant Nwy ACS, yn ogystal â Rhaglen Dysgu a Reolir dros 12 wythnos (bydd angen darparu tystiolaeth gwaith portffolio).
-
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi ddarparu prawf o'r cymwysterau a'r dystiolaeth bresennol i allu gwneud yr ailasesiad. Mae angen cymhwyster Lefel 2 arnom fel y mynediad lleiaf.
-
Dull Asesu
- Darperir hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol ar gyfer hyfforddiant cychwynnol neu ailasesiad
- Gwneir asesiad gan asesydd coleg annibynnol gydag asesiadau crynodol ysgrifenedig ac ymarferol dros 1-6 diwrnod yn dibynnu ar y categorïau -
Costau Ychwanegol
Ffi Deunyddiau £45.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1 year