Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i uwchsgilio mewn meysydd weldio. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sy’n uwchsgilio mewn weldio yn ystod cyflogaeth bresennol, y rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa newydd neu sy’n dymuno ennill cymwysterau mewn Weldio neu ar gyfer hobïwyr brwd. Mae’r cwrs cyflwyniad i weldio hwn yn ymdrin â 3 phroses weldio – MMA, MIG a TIG. Byddwch yn ennill profiad ymarferol a sgiliau ymarferol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn. Bydd gennych fynediad i gyfleusterau o’r radd flaenaf a gweithio ochr yn ochr â’n staff profiadol a fydd yn eich arwain i fireinio eich sgiliau a dilyn eich angerdd. Trwy astudio weldio yng ngrŵp NPTC, byddwch yn rhan o gymuned o ddatryswyr problemau ac arloeswyr y dyfodol sy’n ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae’r cwrs hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unigolion sydd eisiau’r cyfle i uwchsgilio ond sydd ag ymrwymiadau eraill sy’n golygu na allant ymuno â chwrs llawn amser. Gall y rhaglen hon yn yr achos hwn roi’r hyblygrwydd sydd ei angen gan ei fod yn digwydd 1 noson yr wythnos dros 16 wythnos.
-
Gofynion Mynediad
Cyfweliad i asesu addasrwydd.
-
Modiwlau’r cwrs
Cysylltwch â ni am gostau'r cwrs
-
Dull Asesu
Mae arholiad llafar a 5 darn prawf penodol ym mhob proses - gall myfyrwyr ddewis 2 broses ar gyfer y dystysgrif lawn.
-
Costau Ychwanegol
Ffi Deunyddiau £140.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1Y
Fee
£0 – funding available, subject to eligibility