Mae’n bosib bod wyneb Addysg Bellach yn Aberhonddu ar fin newid a bydd y cyhoedd yn cael ei wahodd i ddweud eu dweud. Cynhelir trafodaethau rhwng Coleg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) a Chyngor Sir Powys ar ddatblygiadau a fydd yn arwain at addysg uchel ei hadnoddau sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain yn cael ei darparu yn y dref. Bydd hefyd yn denu myfyrwyr i ddefnyddio holl gyfleusterau busnesau lleol bob dydd, gan hybu masnach siopau a busnesau drwy anadlu mwy o fywyd i mewn i ganol y dref a chyfrannu at gynnydd mawr ei angen o ran cynnyrch domestig gros (GDP).
Mae’r Coleg a’n Penseiri wedi ymgysylltu â staff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, i drafod y posibiliadau o symud rhai cyrsiau i’r dref a’r gymuned ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau ar hyn o bryd. Bydd y cam nesaf nawr yn cynnwys trafodaethau gyda myfyrwyr a defnyddwyr busnes ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau a fydd yn mynd ati i ymgysylltu â grwpiau cymunedol.
Mae’r Coleg eisoes wedi dechrau adnewyddu’r hen Ganolfan Groeso yng nghanol y dref sydd ar brydles iddo erbyn hyn. Defnyddir yr hen ganolfan groeso ar gyfer ymholiadau a gwybodaeth, ynghyd â rhywfaint o ddarpariaeth cwrs. Bydd y Gymuned yn cael ei hannog i ddefnyddio’r ganolfan a bydd mynediad agored i’r rhyngrwyd ‘Cyflymder Uchel’ ar gael.
Mae’r Coleg hefyd yn datblygu cynlluniau eraill a allai weld y Coleg yn gwarchod treftadaeth rhai adeiladau canol tref sy’n bodoli eisoes i ddarparu addysg, sgiliau a hyfforddiant i fyfyrwyr a busnesau. Ar hyn o bryd cynhelir trafodaethau ynghylch defnyddio’r llyfrgell yn Stryd y Llong a Watton Mount yn y dyfodol. Gallai hyn fod yn gyfle gwych i ddiogelu eu treftadaeth a datblygu syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r adeiladau hyn yn y dyfodol, yn unol â dymuniadau CADW, yr awdurdod lleol a phartïon eraill â diddordeb.
Mae’r datblygiadau sy’n cael eu trafod yn rhan o strategaeth i ehangu mynediad i addysg bellach ar gyfer pawb yng nghymunedau Sir Frycheiniog, os ydych yn 16 a dechrau eich gyrfa mewn busnes a chyfrifeg, neu gymryd y cyfle i ddiweddaru eich sgiliau neu hyd yn oed ennill sgiliau newydd at ddiben dyrchafiad neu newid gyrfa yn gyfan gwbl. Byddai symud hefyd yn golygu mynediad haws i gyrsiau pe byddai’r ddarpariaeth yn cael ei lleoli yng nghanol y dref. Mae gobaith hefyd y bydd y cynlluniau yn helpu i gynyddu’r dilyniant i Addysg Uwch a rhaglenni gradd a ddarperir gan y Coleg yn Aberhonddu ynghyd â galluogi pobl i ailhyfforddi a gwella’u sgiliau i’w helpu i gystadlu’n effeithiol yn y farchnad swyddi.
Dywedodd Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Byddwn ni’n cymryd y cyfle i ymgysylltu â defnyddwyr busnes, grwpiau cymunedol a Chyngor Sir Powys wrth farchnata’r cysyniad newydd hwn ynghylch darparu Addysg Bellach. Byddwn ni’n gofyn i’n penseiri ymgysylltu â’r awdurdod cynllunio, sef Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i symud y broses ddylunio yn ei blaen. Rydyn ni wedi gwneud cais am arian drwy Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Rydyn ni wedi datblygu rhaglen amlinellol strategol (SOP) ac rydyn ni wrthi’n cwblhau achos busnes amlinellol. Datblygir achos busnes terfynol (FBC) yn fuan iawn ar ôl hynny. Felly mae angen i’n Bwrdd y Llywodraethwyr a Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau o hyd, ond gallai hyn fod yn gyfle gwych ar gyfer dysgwyr a busnesau yn Aberhonddu.”
Ychwanegodd Aelod o’r Cabinet dros Brif Ffyrdd, Ailgylchu ac Asedau, Cynghorydd Phyl Davies: “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o’n hadeiladau ac rydyn ni wrthi’n trafod sut i ddefnyddio’r llyfrgell a Watton Mount yn Aberhonddu yn y dyfodol, gyda Grŵp Colegau NPTC. Efallai na fydd modd i’r cyngor eu defnyddio bellach ond drwy weithio gyda’r coleg, rydyn ni’n credu eu bod nhw’n gallu chwarae rôl bwysig yn nyfodol y dref.”
Capsiwn Ar Gyfer Y Llun: Pennod newydd i Aberhonddu, argraffiadau gan arlunydd o’r Llyfrgell yn Stryd y Llong a Watton Mount.