Yn dilyn llwyddiant ei gynhyrchiad diweddar, Dolly Parton ‘ 9-5’, mae Cwmni Theatr Impact yn dod â’r clasur tragwyddol ‘Guys and Dolls’ i Ganolfan y Celfyddydau Nidum ym mis Mehefin.
Mae’r sioe gerdd hanfodol hon o Broadway yn cynnig popeth i’r gynulleidfa: cariad, chwerthin, drama, cerddoriaeth gofiadwy, a diweddglo hapus! Ymunwch â Talis Mills fel Sky Masterton a Neiren Baggridge fel Nathan Detroit, trefnwyr y gêm ‘ crap ‘ hynaf yn Efrog newydd, a’u holl ffrindiau lliwgar wrth iddynt ymuno â Byddin yr Iachawdwriaeth i achub pechaduriaid Times Square yn y 1940au!
Dechreuodd myfyrwyr y celfyddydau perfformio gyda chlyweliadau ym mis Ionawr ac maent wedi bod wrthi’n ymarfer byth ers hynny. Mae’r sioe’n llawn dawnsiau egnïol a difyr fel: Sit Down You’re Rocking the Boat’ a ‘Take Back Your Mink’, yn ogystal â chaneuon hyfryd emosiynol fel: ‘I’ll Know’ ac ‘If I Were a Bell’.
Bydd y sioe hon yn apelio at bob cenhedlaeth gan ddod â phawb gyda’i gilydd. Bydd yn noson i’w chofio!
Bwciwch eich tocynnau ‘nawr o swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau Nidum, ffôn: 01639 648300 neu e-bost: nidum@nptcgroup.ac.uk
Perfformiadau
14 Mehefin 7 pm
15 Mehefin 1 pm a 7 pm
16 Mehefin 7 pm
Tocynnau £10 neu £7 consesiynau.
** SIOE ARBENNIG I YSGOLION **
£5 fesul disgybl ac athrawon am ddim!
Cast
Nathan Detroit Neirin Baggridge
Sky Masterson Talis Mills
Benny Isaac Davies
Nicely Luke Coffey
Harry Kyle Ball
Big Jule Axelle Perrin
Adelaide Zoe Dowling
Mimi Ffion Weston
Sarah Brown Annie Phillips
Arvide Abernathy Leigh Bamford
General Cartwright Alex Bamsey
Agatha Carrigan Smith
Martha Rosie Williams
Brannigan Sophie Marvelle
Ensemble dawns sy’n cynnwys Cwmni Dawns One Vision.