Tystysgrif Lefel 3mewn Hyfforddiant Personol (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Dystysgrif IQ Lefel 3 Gweithredol mewn Hyfforddiant Personol yn ddelfrydol os ydych chi am ddilyn gyrfa yn y sector iechyd a ffitrwydd a chael gwaith fel hyfforddwr personol. Bydd yn darparu cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i chi ragnodi, cynllunio a darparu rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol a sesiynau hyfforddi personol i ystod o gleientiaid.

Trwy gyflawni’r cymhwyster hwn fe’ch cydnabyddir fel hyfforddwr personol cymwys. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i’r Gofrestr Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff ar Lefel 3.

Nod y cymhwyster yw adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol mewn hyfforddiant campfa a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach i ddilyn gyrfa mewn hyfforddiant personol.

  • Gofynion Mynediad

    Mae'n rhaid eich bod yn 16 oed neu'n hyn a bod gennych gymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd (Campfa). Mae elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) ynghlwm wrth y cwrs a dylai fod gennych sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu ar Lefel 2.

    Mae'r cymhwyster yn gofyn am ymdrech gorfforol ac mae eich cyfranogiad yn hanfodol, felly mae'n bwysig eich bod yn ffit yn gorfforol.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Mae'r cymhwyster wedi ei ddylunio ar gyfer Hyfforddwyr Campfa sydd am weithio a/neu ddod o hyd i gyflogaeth yn y sector iechyd a ffitrwydd fel hyfforddwr personol ac Unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector iechyd a ffitrwydd y maent am wella'u cyfleoedd wrth symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

  • Dull Asesu

    Bydd y cymhwyster yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi:

    O anatomeg a ffisioleg, cinesioleg swyddogaethol a chysyniadau / cydrannau ffitrwydd
    Casglu a dadansoddi gwybodaeth cleientiaid yn llwyddiannus gan ddefnyddio'r technegau a dderbynnir fwyaf
    Asesu statws iechyd a ffitrwydd cyfredol cleient
    Cynllunio a chynnal sesiynau gweithgaredd corfforol, o fewn amrywiaeth o amgylcheddau gan ddefnyddio adnoddau lluosog
    Perfformio ymgynghoriad cleient effeithiol a darparu strategaethau ar gyfer newid ymddygiad yn llwyddiannus
    Cyfathrebu'n effeithiol a meithrin perthnasoedd llwyddiannus â'ch cleientiaid a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill
    Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector iechyd a ffitrwydd
    Rheoli, gwerthuso a gwella eich perfformiad eich hun
    Cynnig cyngor maethol ar gyfer gweithgaredd corfforol yn seiliedig ar anghenion cleient

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

36W

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility