Crynodeb o’r cwrs
Yn dilyn y wers hon byddwch yn gallu datrys problemau yn ymwneud â siapiau 2D a llinellau paralel, adnabod a defnyddio cynrychioliadau 2D.
Mewn geometreg, gellir diffinio siâp fel ffurf gwrthrych neu ei amlinelliad, ffin allanol neu arwyneb allanol. Mae meddu ar ddealltwriaeth o siapiau 2D a 3D yn helpu’r dysgwr i ddatblygu ei addysg ymhellach a gall agor drysau i wahanol yrfaoedd er enghraifft pensaernïaeth. Pwrpas y wers hon yw rhoi’r gallu i ddysgwyr adnabod a defnyddio cynrychioliadau 2D cyffredin o wrthrychau 3D a datrys problemau yn ymwneud â siapiau 2D a llinellau paralel. Gyda chymorth geiriau allweddol fel siapiau 2D, siapiau 3D, rhwydi, fertigau, ymylon ac wynebau. Mae pynciau gwersi yn cynnwys cynrychioliad 2D a 3D, enwi siapiau 3D, disgrifio siapiau 3D, wynebau, ymylon a fertigau, rhwydi, lluniadau isometrig, ochrau neu linellau cyfochrog, hollti siapiau gan ddefnyddio llinellau paralel a phatrymau brithwaith. Gyda chymorth cwestiynau gwirio gwybodaeth diddorol drwy gydol yr amser ac asesiad ar y diwedd mae dysgwyr yn siwr o ddeall y wers hon.
-
Gofynion Mynediad
Dim
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cael tystysgrif coleg yn cadarnhau eich bod wedi cyflawni'r
modiwl -
Modiwlau’r cwrs
Adnabod a defnyddio cynrychioliadau 2D cyffredin o wrthrychau 3D
-
Dull Asesu
Prawf ar-lein
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1H