Lluoswch: Rhifedd – Mesurau (Rhan Amser: eDdysgu)

Crynodeb o’r cwrs

Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn deall beth yw mesurau cyfansawdd a sut i adnabod, cyfrifo a throsi mesurau cyfansawdd gan ddefnyddio ffactorau trosi.

Mae mesur yn helpu i ddisgrifio ein byd gan ddefnyddio rhifau. Rydym yn defnyddio rhifau i ddisgrifio pethau syml fel hyd, pwysau a thymheredd, ond hefyd pethau cymhleth fel gwasgedd, cyflymder a disgleirdeb. Mae dealltwriaeth o sut rydym yn cysylltu rhifau â’r ffenomenau hynny, bod yn gyfarwydd ag unedau mesur cyffredin fel modfeddi, litrau, a milltiroedd yr awr, a gwybodaeth ymarferol o offer a thechnegau mesur yn hanfodol i ddealltwriaeth myfyrwyr o’r byd o’u cwmpas. Yn y wers hon ymdrinnir ag amrywiaeth o destunau i helpu dysgwyr i ddeall pwnc mesurau yn well. Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys mesurau cyfansawdd, pellter, cyflymder, amser a gweithio gyda chrynodiad.

Bydd ymdrin â’r testunau hyn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu sut i adnabod a chyfrifo gyda mesurau cyfansawdd. Trosi unedau mesur rhwng systemau gan ddefnyddio ffactorau trosi priodol. Yn ogystal ag amcangyfrif mesuriadau trwy ddarllen rhwng rhaniadau wedi’u marcio ar raddfeydd. Mae defnyddio senarios i ailadrodd pob testun dan sylw yn rhoi gwybodaeth i ddysgwyr allu adnabod, cyfrifo a throsi mesurau cyfansawdd gan ddefnyddio ffactorau trosi. Ar ddiwedd y wers hon mae asesiad byr i helpu atgyfnerthu ymhellach ddealltwriaeth a gwybodaeth y dysgwr.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cael tystysgrif coleg yn cadarnhau eich bod wedi cyflawni'r modiwl - bydd hefyd yn gwella eich gallu mewn rhifedd ac yn cefnogi datblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith.

  • Modiwlau’r cwrs

    Dysgwch sut i adnabod a chyfrifo gyda mesurau cyfansawdd.
    Trosi unedau mesur rhwng systemau gan ddefnyddio ffactorau trosi priodol.
    Amcangyfrif mesuriadau trwy ddarllen rhwng rhaniadau wedi'u marcio ar raddfeydd.

  • Dull Asesu

    Prawf ar-lein

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1H