Lluoswch: Canrannau (E-Ddysgu)

Crynodeb o’r cwrs

Bydd y wers hon yn eich galluogi i gymhwyso canrannau mewn sefyllfaoedd byw go iawn gan gynnwys cyfrifo cost eitemau. Byddwch hefyd yn gallu gwerthuso un rhif fel canran o un arall.

Defnyddir canrannau’n eang ac mewn llawer o wahanol feysydd. Er enghraifft, mae gostyngiadau mewn siopau, cyfraddau llog banc, cyfraddau chwyddiant a llawer o ystadegau yn y cyfryngau yn cael eu mynegi fel canrannau. Mae canrannau yn bwysig ar gyfer deall agweddau ariannol bywyd bob dydd. Mae’r wers hon yn cychwyn trwy ailadrodd canrannau cyn ehangu i bynciau eraill a gwmpesir gan gynnwys cyfrifo canrannau, llog, cymhariaeth a chanrannau a setiau canrannau a data. Bydd y testunau hyn yn arwain y dysgwr i ddysgu sut i werthuso un rhif fel canran o un arall. Bydd defnyddio cwestiynau gwirio gwybodaeth a senarios drwy gydol y wers yn galluogi’r dysgwr i ddefnyddio’r wybodaeth newydd y maent wedi’i darganfod wrth ddefnyddio canrannau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn fel defnyddio canrannau i gyfrifo cost eitemau. Daw’r wers i ben gydag asesiad byr gan helpu dysgwyr i brofi eu gwybodaeth am yr hyn y maent newydd ei ddysgu.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cael tystysgrif coleg yn cadarnhau eich bod wedi cyflawni'r modiwl

  • Modiwlau’r cwrs

    Dysgwch sut i werthuso un rhif fel canran o un arall.
    Cymhwyswch eich sgiliau defnyddio canrannau i sefyllfaoedd bywyd go iawn.
    Defnyddiwch ganrannau i gyfrifo cost eitemau.

  • Dull Asesu

    Prawf ar-lein

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1H