Dylunio Peirianneg Ddiwydiannol (Mecanyddol) – BEng (Anrh) (Prentisiaeth Gradd) (Rhan Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Cynlluniwyd y rhaglen hon i uwchsgilio gweithwyr presennol sydd wedi cwblhau astudiaeth lefel 2/3/4 yn flaenorol, naill ai fel prentisiaid neu fel arall. Mae gofynion mynediad arferol i’r rhaglenni hyn yn berthnasol. Cynigir y rhaglen hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.

  • Gofynion Mynediad

    Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â'ch cynnig, cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau.

    Cynnig nodweddiadol: 2 Lefel A ar Radd E neu broffil PP / PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU ar Radd C neu uwch, i gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol). Mae cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn dibynnu ar ofynion ychwanegol gan gynnwys bod yn weithiwr cyflogedig mewn rôl addas yn y sector a gweithio yng Nghymru am o leiaf 51% o'r amser gwaith.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Gallwch symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg, er enghraifft: Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch, Dylunio a Datblygu Cynnyrch Peirianneg, Rheoli Gweithrediadau Peirianneg a Rheoli Prosiectau Peirianneg.

  • Modiwlau’r cwrs

    Gall modiwlau Blwyddyn 1 gynnwys:
    - Technegau Peirianneg Dadansoddol
    - Peirianneg Drydanol
    - Peirianneg Fecanyddol
    - Dysgu Seiliedig ar Waith
    - Safonau Peirianneg, Rheoli Busnes a Gweithrediadau
    - Dylunio a Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)

    Gall modiwlau Blwyddyn 2 gynnwys:
    - Prosiect Diwydiannol
    - Technegau Rheoli Dadansoddol
    - Gweithgynhyrchu Modern, Cynaliadwyedd a Diwydiant
    - Deunyddiau a Phrosesau
    - Dylunio System Fecanyddol
    - Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur

    Gall modiwlau Blwyddyn 3 gynnwys:
    - Prosiect
    - Rheoli'r gweithlu ac Ymgysylltu ac Ymrwymiad
    - Systemau Cynnal a Chadw a Diogelwch
    - Modelu ac Efelychu Peirianneg
    - Dylunio Cynnyrch

  • Dull Asesu

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdy ymarferol a sesiynau tiwtorial. Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen trwy'r rhaglen. Mae gan nifer o fodiwlau arholiadau ac mae angen prosiect ymchwil.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

3Y

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility