
Ymunodd myfyrwyr a staff ar draws Grŵp Colegau NPTC â’r miliynau o bobl ifanc ledled y byd sy’n sefyll yn erbyn newid yn yr hinsawdd ddydd Gwener.
Cynhaliwyd cyfres o streiciau 30 munud mewn llawer o sefydliadau yn fyd-eang a dyma’r diweddaraf mewn cyfres o amgylch y byd eleni wedi’u hysbrydoli gan y ferch yn ei harddegau o Sweden, Greta Thunberg.
Anogwyd staff a myfyrwyr i wisgo gwyrdd, tra trodd campysau’r coleg yn wyrdd a chefnogwyd y gweithredu gan wefan y Coleg hefyd.

Streic Hinsawdd yng Ngholeg Castell-nedd
Creodd myfyrwyr o Golegau Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd a’r Drenewydd gelf wal yn dangos pam eu bod yn cefnogi’r streic a beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu iddynt hwy.
Featured Pic Caption: Streic Hinsawdd yng Ngholeg y Drenewydd