Ymunwch â ni yn ein Diwrnodau Agored:
Castell-nedd | Afan | Y Drenewydd | Bannau Brycheiniog | Pontardawe
24 Mehefin 2017
10yb-2yp
Ydych chi’n gadael yr ysgol yr haf nesaf heb fod yn siŵr os ydych chi am wneud cymwysterau Safon U, prentisiaeth neu gwrs galwedigaethol ymarferol?
Neu ydych chi’n meddwl am uwchsgilio ar gyfer eich swydd bresennol, dechrau Cymhwyster Prifysgol neu ddysgu er pleser yn unig?
Beth am ddod i un o’n Diwrnodau Agored!
Mae’n wych darllen am y Grŵp Colegau NPTC a’r hyn sydd ar gael gennym ond does dim byd yn well na dod i’n gweld yn bersonol.
Mae ein Diwrnodau Agored yn rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr a rhieni brofi’r Coleg a bwrw golwg dros ei gyfleusterau a darganfod mwy am y detholiad o bynciau a chyrsiau sydd ar gael gennym.
Bydd myfyrwyr a rhieni yn gallu gweld y profiad addysgol a gynigir gan Grŵp Colegau NPTC, wrth gael cyfle i ‘roi cynnig’ ar bynciau neu grefftau penodol. Bydd modd i chi hefyd archwilio bywyd tu allan i’r ystafell ddosbarth a chael gweld pa fath o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael yn y Coleg.