Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TAR) AHO (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TAR AHO) ar eich cyfer chi os ydych chi’n raddedig o bwnc perthnasol sy’n ceisio ennill cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol i weithio mewn addysg bellach a’r sector ôl-orfodol ehangach.

Ar y cwrs, byddwch yn datblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ymarfer llwyddiannus mewn Addysg Ôl-orfodol a’ch hyder fel ymarferydd proffesiynol.

Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).

Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol De Cymru.

  • Gofynion Mynediad

    Cymhwyster gradd sy'n berthnasol i'r arbenigedd pwnc a TGAU Gradd C neu uwch gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd ag ymarfer addysgu o leiaf 70 awr bob blwyddyn a rhaid trefnu hyn cyn cofrestru ar y cwrs.

    Disgwylir i'r myfyriwr gwblhau gwiriad sgiliau ar-lein yn y cyfweliad.

    Mae'r rhaglen hon yn gofyn am wiriad DBS gwell, a godir ar gost ychwanegol i'r myfyriwr.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Gallwch symud ymlaen i raglen ôl-orfodol gysylltiedig â busnes, er enghraifft: MA mewn Addysg. Mae gan raddedigion ragolygon gyrfa ym meysydd addysg bellach ac addysg i oedolion, er enghraifft: athro, darlithydd, cynorthwyydd addysgu ôl-orfodol neu hyfforddwr astudio.

  • Modiwlau’r cwrs

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol. Mae gofyn i chi gyflawni lleoliad ymarfer addysgu sylweddol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn astudio. Mae modiwlau'n cynnwys: Cynllunio ar gyfer Dysgu, Asesu ar gyfer Dysgu, Datblygu Arfer Proffesiynol, Ymchwil Astudiaethau Achos, Siarad Testun a Llythrennedd ac Ymestyn Arfer Proffesiynol.

  • Dull Asesu

    Bydd gofyn i chi gyflawni aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, dyddiaduron myfyriol a chyflwyniad poster wrth i chi symud ymlaen trwy'r rhaglen. Bydd eich sesiynau addysgu yn cael eu harsylwi yn ystod y ddwy flynedd academaidd.

  • Costau Ychwanegol

    Teithio i'ch lleoliad gwaith ac adref. Mae'r rhaglen hon yn gofyn am wiriad manwl DBS ac bydd rhaid i fyfyrwyr dalu am y gwiriad.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

2Y

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility