Y Celfyddydau Creadigol Gweledol a Pherfformio

Edrychwch ar Ganolfan Gelf Nidum  Edrychwch ar Theatr Hafren

Coleg Castell-nedd

Coleg y Drenewydd

Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn darparu amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol Safon Uwch a llawn amser yn y Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio, a’r Cyfryngau Creadigol.

 

Addysgir pob dosbarth mewn amgylchedd creadigol trwy ddefnyddio offer diwydiant cyfoes yn ein cyfleusterau arbenigol.

Ein bwriad yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yw datblygu technegau meddwl ac astudio cymhleth.

Bydd myfyrwyr Celf a Dylunio yn cael cyfle i arddangos eu portffolio amrywiol yn y coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol a fydd yn helpu i hyrwyddo eu hunain i ddarpar gyflogwyr.

Hefyd, gall myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddol a phrofiad gwaith i ddatblygu eu dysgu.

Bydd myfyrwyr amlgyfrwng yn gweithio ar brosiectau byw ac yn cysylltu â chleientiaid allanol i sgrinio eu prosiect mawr olaf.

Hyd yn oed yn fwy, mae cyfleoedd gyrfa mewn amlgyfrwng yn darparu ystod o lwybrau i fyfyrwyr a all greu cysylltiadau parhaol â’r diwydiant, mae’r rhain yn cynnwys teledu, radio, ffilm a’r cyfryngau digidol.

Mae prosbectws gyrfa’r Celfyddydau Perfformio yn helaeth, gyda llwybr yn addas i’r mwyafrif o fyfyrwyr. Mae’r rhain yn amrywio o gwmnïau theatr i brosiectau celf gymunedol.

Yn ogystal, rydym yn darparu cefnogaeth helaeth gyda cheisiadau ar gyfer prifysgolion i alluogi ein myfyrwyr i gyfuno hunan-hyrwyddiad a rheolaeth ymarferol.

O ganlyniad, rydym yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer byd perfformio ac yn anelu at eu gwneud yn barod ar gyfer gyrfa.

Gall myfyrwyr barhau â’u hastudiaethau gyda Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Cerddoriaeth yn ein Academi Gerdd Grŵp NPTC neu Ddiploma Celf a Dylunio Sylfaenol.

Ar ben hynny, rydym yn cynnig rhaglenni allgyrsiol aruthrol gan gynnwys côr y Coleg, Funk Band, Cwmni Dawns LIFT a dosbarthiadau Arlunio Bywyd wythnosol.




DILYNWCH NI AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL!

Facebook

Twitter

Cyrsiau