Cwestiynau Cyffredin

1. Ble mae swyddi gwag Grŵp Colegau NPTC yn cael eu hysbysebu?

Mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu ar y gwefannau canlynol: nptcgroup.ac.uk, Canolfan Byd Gwaith, fejobs.com, eteach.com. Rydym hefyd yn dosbarthu manylion ein swyddi gwag ar Twitter: @NPTCGroup

2. Pwy all wneud cais am swyddi gwag Grŵp Colegau NPTC?

Os ydych yn credu bod gennych y profiad, y sgiliau, y cymwysterau cywir a’r ddawn ar gyfer y swydd, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Os ydych yn ansicr, bydd y manyleb person a’r swydd-ddisgrifiad yn rhoi manylion am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano.

3. A allaf wneud cais gyda fy CV?

Mae’r Coleg yn gofyn i bob ymgeisydd allanol lenwi ffurflen gais gan fod hyn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi a’r ymgeiswyr eraill mewn ffordd gyson i ni. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein proses yn deg. Mae hefyd yn ein helpu i gasglu gwybodaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â’n holl ymgeiswyr, er mwyn bodloni’n rhwymedigaethau statudol a’n helpu i gefnogi ymgeiswyr o bob sector o’r gymuned.

4. Ble galla i gael ffurflen gais?

Gallwch wneud cais ar-lein trwy glicio ar y botwm “Gwneud cais ‘nawr” ar ochr dde manylion y swydd a hysbysebwyd, neu gallwch lawr lwytho’r ffurflen gais trwy glicio ar y botwm “Lawr lwytho Ffurflen Gais (Word)”. Os ydych yn cael trafferth wrth gael gafael ar y ffurflen gais ar-lein, gallwch gysylltu â ni ar jobs@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 01639 648031 i ofyn am ffurflen gais.

5. Pa mor hir y dylai fy natganiad ategol fod?

Gellid dadlau mai’r datganiad ategol yw rhan anoddaf y broses ymgeisio ac mae’n hanfodol eich bod yn ei gael yn iawn.  Dyma eich cyfle i werthu eich hun i’r panel sy’n llunio’r rhestr fer.  Dylai fod yn unigryw i chi ac wedi’i deilwra i’r swydd rydych yn gwneud cais ar ei gyfer.  Dylech ei ddefnyddio i ddangos eich sgiliau, eich cymwysterau a’ch profiadau.  Fel arfer, dylai fod o leiaf un ochr o bapur A4, sy’n cyfateb i tua 800-1000 o eiriau.  Fodd bynnag, bydd datganiadau ategol yn amrywio o ran hyd yn dibynnu ar y swydd y gwneir cais amdani.

6. Pa mor hir bydd y broses o lunio rhestr fer a sut byddaf yn gwybod os ydw i ar y rhestr fer?

Unwaith y bydd y swydd wag wedi cau, byd y rhestr fer yn cael ei llunio fel arfer o fewn pythefnos. Byddwn yn ysgrifennu at bob ymgeisydd sydd wedi cael ei roi ar y rhestr fer i’w gwahodd i gam nesaf y broses. Yn anffodus, oherwydd y nifer fawr o geisiadau a dderbyniwn ar gyfer rhai swyddi, ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y rhestr fer.

7. Rwyf wedi cael fy ngwahodd am gyfweliad, beth ddylwn i ddod â mi ar y diwrnod?

Bydd angen i chi ddod â dull adnabod fel eich pasbort neu dystysgrif geni. Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno tystysgrifau o unrhyw gymwysterau a grybwyllwyd gennych yn eich ffurflen gais. Byddwn hefyd yn gofyn ichi lenwi datganiad diogelu fel rhan o’n proses diogelu datgelu. Caiff hyn oll ei amlinellu yn eich llythyr gwahodd.

8. Ni allaf ddod o hyd i fy nhystysgrifau am gymwysterau, beth ddylwn ei wneud?

Os ydych wedi ein hysbysu yn eich ffurflen gais fod gennych gymhwyster, mae gofyn i ni weld y dystysgrif. Gallwch gysylltu â chorff dyfarnu megis CBAC i wneud cais am un newydd.

9. Gofynnwyd i mi roi cyflwyniad fel rhan o’r asesiad, pa gyfleusterau y bydd ar gael i mi?

Bydd bwrdd rhyngweithiol, Office 2007 (gan gynnwys PowerPoint 2007), mynediad i’r rhyngrwyd a thaflunydd ar gael i chi. Fodd bynnag, os bydd angen adnoddau ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r Tîm recriwtio ar 01639 648031, o leiaf 48 awr cyn eich asesiad, ac awn ati i gwrdd â’ch gofynion.

10. Beth yw’r Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)?

Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r rheoleiddiwr annibynnol yng Nghymru ar gyfer addysg bellach ac mae gofyn i’r rheiny sy’n dal swydd sy’n gysylltiedig ag addysgu a dysgu, gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, gofrestru fel ymarferydd addysg. Os ydych yn llwyddiannus gyda’ch cais ac mae’r swydd yr ydych yn gwneud cais amdano yn rhan o’r categori hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi a rhoi manylion am y broses gofrestru.

11. A fydd arnaf angen gwiriad gan y DBS?

Fel darparwr addysg, mae angen i bob aelod o’n staff gael gwiriad DBS boddhaol. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwn yn darparu’r manylion i chi am sut i wneud cais. Rydym hefyd yn gofyn i’n staff gofrestru gyda’r gwasanaeth diweddaru. Mae hyn yn gwneud eich gwiriad DBS yn gludadwy.

12. Rwyf wedi bod yn llwyddiannus. Pryd galla i ddechrau?

Mae’r gofyn i ni dderbyn y pethau canlynol cyn i chi ddechrau’ch cyflogaeth; dau eirda boddhaol, rhaid i un geirda fod gan eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar; ffurflen gais y gwasanaeth datgelu a gwahardd a’r dogfennau ategol llawn a’r taliad; cadarnhad eich bod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) os yw’n berthnasol a thystysgrifau gwreiddiol ar gyfer unrhyw gymwysterau.

13. Mae gan Grŵp Colegau NPTC sawl campws, sut byddaf yn gwybod lle y lleolir y swydd?

Bydd yr hysbyseb yn dweud wrthych lle y lleolir y swydd.