Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs mynediad heddlu hwn yn gam cyntaf hanfodol mewn hyfforddiant i ddod yn heddwas.
Mae ymgymryd â Thystysgrif Lefel 3 mewn Gwybodaeth am Blismona yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o arferion plismona.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen ar ddysgwyr i wneud cais a pharatoi ar gyfer y broses asesu a chyfweld llym.
-
Gofynion Mynediad
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Rhaid i'r dysgwyr fod yn 18 oed neu'n hyn.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael y cyfle i symud ymlaen i yrfa yn yr heddlu.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cwrs yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
• Plismona ataliol ar sail tystiolaeth
• Cefnogi dioddefwyr, tystion a phobl agored i niwed
• Rheoli sefyllfaoedd o wrthdaro ym maes plismona
• Defnyddio pwerau'r heddlu i ddelio â phobl dan amheuaeth
• Cynnal chwiliadau heddlu
• Trin gwybodaeth a chudd-wybodaeth
• Darparu ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau plismona
• Cynnal ymchwiliadau blaenoriaeth a chyfaint
• Cyfweld dioddefwyr a thystion mewn perthynas ag ymchwiliadau blaenoriaeth a chyfaint
• Cyfweld y rhai a ddrwgdybir mewn perthynas ag ymchwiliadau blaenoriaeth a chyfaint -
Dull Asesu
Mae'r cymhwyster yn cynnwys 10 uned orfodol a fydd yn cael eu hasesu trwy gyfrwng amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig ac arddangosiadau ar sail senario.
-
Costau Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn yn costio £799. Mae cyllid llawn ar gael trwy Gyfrifon Dysgu Personol (PLA), yn amodol ar gymhwysedd. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
12W
Fee
£0 – funding available, subject to eligibility