Crynodeb o’r cwrs
Mae’r ICDL yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n dangos gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol mewn TG, megis rheoli ffeiliau, prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, graffeg cyflwyniadau a defnyddio’r rhyngrwyd. Caiff y cwrs ei astudio’n annibynnol gan y dysgwr trwy ddeunydd wedi’i gynllunio’n ofalus gyda’r nod o ddarparu taith glir a dealladwy drwy wahanol elfennau’r cwrs. Mae’r hyblygrwydd i astudio o amgylch ymrwymiadau eraill yn gwneud hwn yn opsiwn poblogaidd i unrhyw un sydd eisiau dysgu ar eu cyflymder eu hunain dros y flwyddyn academaidd. Mae dysgwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad drwy gydol y cwrs gan gydlynydd y cwrs.
-
Gofynion Mynediad
Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am TG na sgiliau cyfrifiadurol i astudio ICDL; mae ar gyfer pobl sy’n dymuno cael cymhwyster meincnod mewn cyfrifiadura er mwyn gwella eu cyfleoedd gyrfaol neu ar gyfer datblygiad personol.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Unrhyw swydd lle mae cymhwysedd sylfaenol mewn TG yn ofynnol
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1Y
Fee
£157.95 – funding available, subject to eligibility