Sgiliau Uwch mewn Weldio C&G Lefel 3 (Rhan-amser: Noson)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs Lefel 3 Weldio Uwch yn darparu cymhwyster a gynllynuiwyd ar gyfer weldwyr MIG, TIG neu MMA profiadol sydd am ddatblygu sgiliau technegol uwch a bodloni disgwyliadau’r diwydiant. Wrth adeiladu ar gymhwyster Lefel 3 mewn weldio neu brofiad cyfwerth, byddwch yn arbenigo mewn gwaith pibellau neu waith platiau ac yn gweithio tuag at gynhyrchu weldiau o ansawdd uchel ar draws ystod o safleoedd. Mae’r cwrs yn cefnogi symud ymlaen i rolau weldio uwch a hyfforddiant arbenigol neu oruchwyliol pellach o fewn i beirianneg a chynhyrchu.

Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 5pm-9pm
Dyddiad dechrau: Mis Medi 2026
Hyd: Blwyddyn (O fis Medi i fis Mehefin)

I bwy mae’r cwrs hwn?
• Weldwyr profiadol sydd wedi cyflawni cwrs Lefel 2 mewn weldio yn llwyddiannus
• Dysgwyr sy’n meddu ar gymwysterau cyfwerth a phrofiad ymarferol sylweddol mewn weldio
• Unigolion sy’n anelu at symud ymlaen i rolau weldio uwch neu arbenigol

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Technegau weldio uwch i gynhyrchu weldiau o ansawdd uchel ar gyfer cymwysiadau anodd
• Sut i weithio gyda deunyddiau a chydosodiadau mwy cymhleth
• Sut i ddarllen a dadansoddi arlunio technegol a symbolau weldio

Ar ôl cwblhau, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn weldio, gan ddangos eich gallu a’ch parodrwydd am waith technegol ar lefel uwch.

  • Gofynion Mynediad

    • Wedi cwblhau’r cwrs Lefel 2 mewn weldio
    • Gwybodaeth flaenorol a phrofiad ymarferol mewn weldio

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Gall y cymhwyster hwn gyfoethogi eich cyflogadwyedd a chefnogi symud ymlaen i mewn i rolau weldio uwch. Mae hefyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer hyfforddiant arbenigol neu oruchwyliol pellach o fewn i’r diwydiannau peirianneg a chynhyrchu.

  • Modiwlau’r cwrs

    • Technegau a safonau weldio uwch
    • Arbenigo ym maes gwaith pibellau neu waith platiau
    • Weldio mewn safleoedd niferus
    • Dehongli arlunio technegol a symbolau weldio

  • Dull Asesu

    • Uniadau wedi’u weldio ac wedi’u cwblhau
    • Arholiad cwestiynau ar lafar

  • Costau Ychwanegol

    Cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithdy yn cynnwys oferôls gwrth-dân, esgidiau diogelu, sbectols diogelu, helmed a menig weldio.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

Blwyddyn

Fee

£400.00 – funding available, subject to eligibility