Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn darparu cyngor ymarferol i greu gweithle iach a chynhyrchiol. Mae’n rhoi’r offer i reolwyr i gefnogi gweithwyr sy’n profi problemau iechyd corfforol neu feddyliol.
Nod y cymhwyster yw gwella dealltwriaeth o’ch cyfrifoldebau dros iechyd a lles, a pham ei fod yn gwneud synnwyr busnes da, eich galluogi i reoli newidiadau yn iechyd pobl ac asesu ffitrwydd ar gyfer gwaith, esbonio beth i’w ystyried mewn asesiad anghenion iechyd, a’ch helpu i gefnogi pobl sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.
-
Gofynion Mynediad
Dim
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael y cyfle i symud ymlaen i Dystysgrif Rheoli'n Ddiogel IOSH neu Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, a mwy o gyfleoedd cyflogaeth mewn rolau goruchwylio a rheoli.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â:
- Cwmni iach a pham ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i reoli iechyd a lles yn y gweithle
- Rheoli risg iechyd
- Ffitrwydd ar gyfer gwaith a phwysigrwydd rheoli'r amrywiadau yn statws iechyd pobl
- Sut y gall hyrwyddo rhaglen lles ddylanwadu ar sefydliad ac ychwanegu gwerth ato. -
Dull Asesu
Wedi'i asesu trwy arholiad
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
Undydd
Fee
£165.00 – funding available, subject to eligibility