Gwobr Lefel 4 mewn Marchnata Digidol – Creu a Rheoli Gwefannau CMS (Cyflenwi Ar-lein) (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys creu a rheoli gwefannau CMS ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn, neu sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn Marchnata Digidol.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i chi adeiladu, rheoli a rhedeg gwefan trwy ddefnyddio WordPress.

Mae cynnwys y cwrs yn cynnwys:
1. Deall sut mae gwefannau a’r rhyngrwyd yn gweithio.
2. Deall y cyfreithlondebau sy’n gysylltiedig â gwefannau.
3. Deall sut i reoli cynnwys trwy CMS.
4. Deall sut i fesur llwyddiant gwefan a gwneud gwelliannau.
5. Gallu cynllunio a datblygu gwefan WordPress (CMS).

  • Gofynion Mynediad

    Dim

    Sylwch, bydd angen i'r dysgwr gael mynediad at gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd i gael mynediad i'r cwrs ar-lein hwn ac i gyfathrebu â hyfforddwr y cwrs.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Gall unigolion wneud cais am y Dystysgrif neu'r Diploma mewn Marchnata Digidol ar Lefel 4 pan fydd digon o gredydau wedi'u cyflawni. Cyflawnir credydau trwy gwblhau unedau sydd wedyn yn cael eu dosbarthu fel Dyfarniadau.

    Gall unigolion wneud cais am y Dystysgrif neu'r Diploma mewn Marchnata Digidol ar Lefel 4 pan fydd digon o gredydau wedi'u cyflawni. Mae'r Diploma yn cynnwys unigolion sy'n cyflawni 40 credyd (8 uned) ar Lefel 4. Mae'r Dystysgrif yn cynnwys 25 credyd (5 uned) ar Lefel 4.

  • Modiwlau’r cwrs

    Mae cyllid ar gael, yn amodol ar gymhwysedd, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

  • Dull Asesu

    Adroddiad ysgrifenedig

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1D

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility

Full Fee

£60