Crynodeb o’r cwrs
Dysgu sut i dynnu lluniau ffantastig, yn y cwrs rhagarweiniol hwn mewn ffotograffiaeth i ddechreuwyr. Dyma’r cwrs delfrydol i uwchsgilio, dod o hyd i’ch hoff hobi newydd neu’n gwrs perffaith ar gyfer perchnogion busnesau bach sydd am wella eu marchnata neu eu presenoldeb ar-lein yn y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu hanfodion defnyddio camera DSLR, rhoi mynediad i ystod o gyfarpar ffotograffig o safon uchel, meddalwedd golygu digidol a phrofiad o weithio mewn stiwdio ffotograffig.
-
Gofynion Mynediad
Mae cael camera yn ddefnyddiol i ddatblygu sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ond nid yw'n hanfodol. Mae camerâu ar gael i'w defnyddio gan y cyfranogwyr yn ystod y cwrs.
-
Dull Asesu
Adolygir sgiliau technegol a chreadigol gan y tiwtor, ond nid oes angen asesiad ffurfiol.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
8W