L3 mewn Goruchwylio Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Rhan Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae problemau iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Mae busnesau nawr, yn fwy nag erioed, yn cael eu hannog i gymryd perchnogaeth o les cyflogeion a gallwn eich helpu i gyflawni hyn.

Mae’r cwrs yn cwmpasu cynnwys y cyrsiau Lefel 1 a Lefel 2 Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ymgorffori’r cynllun gweithredu cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl a sut i roi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol ar waith yn y gweithle. Bydd dysgwyr yn ennill y wybodaeth i nodi pryd y gall fod gan berson gyflwr iechyd meddwl ac yn gwybod i ble y gallant fynd i gael cymorth.

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
– Beth yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
– Adnabod cyflyrau iechyd meddwl
– Rhoi cyngor a dechrau sgwrs
– Cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
– Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gweithle
– Straen, pryder, iselder a hunanladdiad
– Anhwylderau bwyta
– Seicosis
– Anhwylder personoliaeth
– Sgitsoffrenia
– Hunan-niweidio
– Cyffuriau ac alcohol
– PTSD
– Anhwylder deubegwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at hyfforddwyr, aseswyr a goruchwylwyr yn y gweithle.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

2D

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility