Dylunio Peirianneg Ddiwydiannol – BEng (Anrh) (Prentisiaeth Gradd) (Rhan Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Cynlluniwyd y rhaglen hon i uwchsgilio gweithwyr presennol sydd wedi cwblhau astudiaeth lefel 2/3/4 yn flaenorol, naill ai fel prentisiaid neu fel arall. Mae gofynion mynediad arferol i’r rhaglenni hyn yn berthnasol. Cynigir y rhaglen hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.

Gall modiwlau Blwyddyn 1 gynnwys:
– Technegau Peirianneg Ddadansoddol
– Peirianneg Drydanol
– Peirianneg Fecanyddol
– Dysgu Seiliedig ar Waith
– Safonau Peirianneg, Busnes a Rheoli Gweithrediadau
– Dylunio a Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD).

Gall modiwlau Blwyddyn 2 gynnwys:
– Prosiect Diwydiannol
– Technegau Rheoli Dadansoddol
– Gweithgynhyrchu Modern, Cynaliadwyedd a Diwydiant
– Offeryniaeth a Monitro Cyflwr
– Awtomeiddio Diwydiannol a CDP
– Dosbarthu Pwer a Dylunio System.

Gall modiwlau Blwyddyn 3 gynnwys:
– Prosiect
– Rheoli’r gweithlu ac Ymgysylltu ac Ymrwymiad
– Systemau Cynnal a Chadw a Diogelwch
– Modelu ac Efelychu Peirianneg
– Systemau Cyfathrebu Diwydiannol

  • Gofynion Mynediad

    Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynnig arferol ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy’n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’ch cynnig, cysylltwch â’n Tîm Derbyn.

    Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch Gradd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth). Mae cymhwyster ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn dibynnu ar ofynion ychwanegol gan gynnwys bod yn weithiwr cyflogedig mewn rôl addas o fewn y sector a gweithio yng Nghymru am o leiaf 51% o amser gwaith.
    Cynnig nodweddiadol: 2 Lefel A ar Radd E neu broffil PP / PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU ar Radd C neu uwch, i gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol). Mae cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn dibynnu ar ofynion ychwanegol gan gynnwys bod yn weithiwr cyflogedig mewn rôl addas yn y sector a gweithio yng Nghymru am o leiaf 51% o'r amser gwaith.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Gallwch symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig cysylltiedig â pheirianneg. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg, er enghraifft: Peirianneg Drydanol, Peirianneg Electronig, Peirianneg Ddiwydiannol a Rheoli Gweithrediadau Peirianneg.

  • Dull Asesu

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol a sesiynau tiwtorial. Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy'r rhaglen. Mae gan nifer o fodiwlau arholiadau ac mae angen prosiect ymchwil.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

3Y