Crynodeb o’r cwrs
Nod y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth a sgiliau penodol i ddysgwyr ar ofynion ôl-osod domestig i fodloni’r safonau a nodir yn PAS2035. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gwmpasu cydlynu prosiectau o’r dechrau i’r diwedd o ddechrau prosiect ôl-osod i’r trosglwyddiad a’r gwerthusiad parhaus.
Ar ôl cymhwyso, bydd dysgwyr wedi’u cyfarparu â gwybodaeth a sgiliau penodol i gyflawni prosiectau ôl-osod domestig i’r safonau a nodir yn PAS2035.
-
Gofynion Mynediad
Rhaid i ddysgwyr fod dros 18 oed a bydd angen iddynt feddu ar gymhwyster proffesiynol mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag adeiladu fel pensaernïaeth, arolygu, peirianneg neu reoli adeiladu ar Lefel 4 neu NVQ ar Lefel 3 neu uwch gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn pwnc sy'n gysylltiedig â rheoli neu oruchwylio prosiectau adeiladu a phrosiectau adeiladu domestig.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael mwy o gyfleoedd cyflogaeth fel Cydlynydd Ôl-osod ar gyfer prosiectau ôl-osod domestig a gyflwynir o dan PAS 2035.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 13 uned orfodol:
• Cyflwyniad i ôl-osod o dan PAS2035
• Asesu Anheddau ar gyfer Ôl-osod
• Sicrhau Ansawdd Ôl-osod a Rheoli Risg
• Ffiseg Adeiladu – Rheoli Risg Lleithder
• Ffiseg Adeiladu – Effeithlonrwydd Thermol
• Gwella Ffabrig yr Adeilad – Lloriau a Toeau
• Gwella Ffabrig yr Adeilad – Waliau a Ffenestri
• Gwella'r Gwasanaethau Adeiladu - Gwresogi, Dwr Poeth, Goleuo a Phwer
• Gwella'r Gwasanaethau Adeiladu – Systemau Ynni Adnewyddadwy
• Gwella Aerglosrwydd ac Awyru
• Gwerthuso Opsiynau Gwella a Chynlluniau Ôl-osod Tymor Canolig
• Profi, Monitro a Gwerthuso Ôl-osod
• Deall y gofynion ar gyfer cyflwyno mesurau i TrustMark -
Dull Asesu
Asesir y cymhwyster drwy gyfuniad o:
- Prawf Gwybodaeth Diwedd y Cymhwyster
- Trafodaeth(au) Proffesiynol
- Astudiaethau Achos Senario
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1Y
Fee
£2550.00 – funding available, subject to eligibility